Tipyn o gamp gyda chystadleuaeth gref oddi wrth nifer fawr o ganghennau eraill ar hyd a lled y wlad.
Dyma oedd gan Win Morgan y bost feistres (yn y llun) i'w ddweud.
"Mehefin eleni dechreuodd y broses, pan oeddem yng nghanol yr holl waith o ail wneud y siop. Ac yng nghanol llanast yr adeiladwyr yr oedd ein cwsmeriaid yn fwy na pharod i lanw'r slipiau yn rhoi eu barn am y gwasanaeth a gynigir yma. Dyma'r drydedd flwyddyn i ni gystadlu, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i dynnu sylw at gyfraniad swyddfeydd post i'w cymunedau.
"Mae nifer ohonynt yn cau ar hyn o bryd gan golli'r sgwrs a'r gymdeithas y mae'r cwsmeriaid yn ei fwynhau yma.
"Roedd mynd i Lundain i dderbyn y wobr yn Banqueting Hall, Whitehall yn dipyn o brofiad. Roedd y carped coch allan a'r camer芒u yn fflachio o bob cyfeiriad, tipyn o seremoni yn wir. Ond pur anaml y cawn gyfle i fynd oddi yma, gyda'r siop ar agor rhwng 5 y bore a 6 yr hwyr. Ond os am gynnig y gwasanaeth gorau i'n cwsmeriaid, rhaid bod yn hyblyg."
Ond camgymeriad fyddai i chwi feddwl mai 'dyna ni' i Siop a Swyddfa'r Post Llangadog. Mae Win a'i g诺r Richard yn ceisio ffyrdd newydd o gynnig gwell gwasanaeth yn barhaus. Y bwriad yw ymestyn oriau'r Swyddfa Bost i wasanaethu pobl sy'n gweithio fedru defnyddio'r cyfleusterau sydd yno. Efallai eich bod wedi sylwi fod yna gaffi rhyngrwyd newydd agor yno, gan brofi ei fod yn boblogaidd gyda chwsmeriaid, ac er mwyn i bawb fedru mwynhau'r dechnoleg newydd gobeithir cynnig hyfforddiant yn y dyfodol agos.
Rwy'n si诺r y cytunwch fod gan bentref Llangadog wasanaeth heb ei ail yn ei swyddfa bost gymunedol. Gwasanaeth sy'n rhoi'r pwyslais ar safon a pharch at gwsmeriaid, a hynny mewn awyrgylch fodern a chyffrous.
|