Taliaris
Pen y fan lle ceir heidiau o ieir...
Ble ar y ddaear mae hwn?
Mae'n debyg taw dyma ystyr yr enw Taliaris, ond efallai y byddai sawl un yn dal i ofyn ble yn gwmws mae Taliaris? Nid yw'n gwestiwn hawdd i'w ateb gan fod ardal Taliaris yn ymestyn i 3 phlwyf - Manordeilo a Salem; Talyllychau a Llansadwrn. Ond mae'n debyg taw Plas Taliaris ac Eglwys Taliaris yw'r mannau mwyaf adnabyddus.
Plas Taliaris
Gwelir enw Plas Taliaris yn Rholiau Patent 1336 fel Taleyares. Syr Rhys ap Griffith, a fu farw ym 1356 oedd Arglwydd Llansadwrn a Thaliaris. Maes o law aeth yr arglwyddiaeth i Syr Rhys ap Thomas, Dinefwr.
Perchnogion y stad o'r 1630au ymlaen oedd y teulu Gwynne a gwerthwyd y stad i'r Arglwydd Robert Seymour ym 1787.
Mewn arolwg a wnaed ym 1814 roedd y stad yn ymestyn i 3,146 o erwau. Fe'i gwerthwyd am 拢65,000 ym 1833 i Robert Peel cefnder y gwleidydd Syr Robert Peel (a wnaeth sefydlu Heddlu'r Metropolitan yn Llundain). Gwerthwyd y plasdy gan y Peel olaf ym 1967.
Adeiladwyd darn cynharaf yr adeilad presennol yn y 1630au ar sail selerau o'r 16fed ganrif. Ail-flaenwyd yr adeilad fel y gwelir heddiw yn y 1780au. Heddiw mae Plas Taliaris yn ganolfan astudio sy'n cynnig rhaglenni hyfforddiant a chyrsiau preswyl i ymwelwyr.
Eglwys y Drindod, Taliaris
Yn wreiddiol Capel Anwes i Landeilo Fawr yn ystod y canol oesoedd oedd eglwys Taliaris.
Tua 1660 ail adeiladodd William Gwynne o Blas Taliaris y capel wedi iddo fod yn furddun am amser. Yn ystod y 18fed ganrif gweithredodd Capel Taliaris fel uned annibynnol oddi fewn i blwyf Llandeilo gan fod rhoddion y teulu Gwynne yn talu am reithor.
Adeiladwyd yr adeilad presennol gan Herbert Peel ym 1892.
Ysgol Taliaris
Adeiladwyd ysgol Taliaris gan y teulu Peel ym 1837 er mwyn rhoi addysg i 70 o 'blant tlawd' rhwng 7 a 13 oed. Roedd yr ysgol yn sefyll yng nghae Tafarn Bwci ac fe'i caewyd ym 1919. Tybed a all unrhyw un egluro ystyr yr enw 'Cae Tafarn Bwci'?
Heblaw am y Plas a'r eglwys mae na sawl man o ddiddordeb hanesyddol arall yn yr ardal.
Maescastell
Bron yn gyfochrog a Llyn Taliaris mae olion hen gaer Gymreig sy'n deillio o'r ganrif gyntaf CC. Lleolwyd y gaer er mwyn amddiffyn y tir bryniog tu cefn iddi ac er mwyn cael man ffafriol i weld dyffryn Tywi i'r de a'r de orllewin.
Ymddengys y byddai Llyn Taliaris dipyn yn hwy 2000 o flynyddoedd yn 么l ac yn rhan bwysig o amddiffynfeydd y safle.
Mae'r gaer yn hirgrwn a thua dwy erw o faint. Byddai'r mynedfeydd bob pen i'r hirgrwn. Gellir gweld y gwrthgloddiau, sef dwy ffos a bancyn, yn eglur o'r hewl. Mae'n debyg taw llwyth Celtaidd y Silures neu'r Dementiae fyddai wedi trigo yno.
Bwthyn Nantwallter
Dyma adeilad bach syml sydd wedi teithio ymhell o'i gynefin. Adeiladwyd bwthyn Nantwallter yn y 1770au fel cartref i weithwyr stad Plas Taliaris. Bwthyn to gwellt wedi'i adeiladu a waliau o fwd oedd Nantwallter. Roedd y teulu yn byw mewn un ystafell gyda llofft gysgu uwchben.
Ar ddechrau'r 1990au symudwyd y bwthyn i Amgueddfa Sain Ffagan darn wrth ddarn. Erbyn heddiw mae'r bwthyn wedi'i ail adeiladu yno ac yn safle gwerth ei weld. Cedwir yr enw yn fyw yn yr ardal gan Garej Nantwallter sydd ar yr hen safle.
Ffermdy Aberdaunant
T欧 ffr芒m nenfforch sy'n dyddio'n wreiddiol o ddiwedd y canol oesoedd yw Aberdaunant. Ychwanegwyd at yr adeilad yn ystod y 17fed, 18fed a'r 19eg ganrif ac mae wedi parhau yn d欧 fferm ar hyd yr amser. Prynwyd yr adeilad to gwellt a'r tir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y 1990au, ac mae'n dal i gael ei ffermio mewn dill traddodiadol gan denantiaid. Mae dwy ystafell yn y t欧^ ar agor i ymwelwyr ar ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng Ebrill a mis Medi.
Hoffwn ddiolch yn fawr i Euros Owen am ei gymorth parod gyda'r erthygl yma.
S.M.