Ychydig iawn ohonom oedd yn ei adnabod fis Ebrill pan gyrhaeddodd Odre'r Aran wedi cael triniaeth ofnadwy yn Llundain gan swyddogion mewnfudo. Dweud y gwir bu bron iddo fo gael ei yrru yn 么l i Batagonia heb hyd yn oed weld Cymru. Ond cyrraedd Llanuwchllyn wnaeth o, ac ers iddo gyrraedd yma fe fyddech yn taeru ei fod o wedi bod yma erioed. Mae ei gymeriad hoffus a'i ddawn gerddorol arbennig wedi bod yn help mawr yn hynny o beth. Bu'n canu fel unawdydd mewn ambell gyngerdd gyda Ch么r Godre'r Aran ac wrth gwrs roedd yn canu efo'r c么r ddiwrnod eu buddugoliaeth yn Llangollen. Mae'n aelod o'r c么r cymysg yn y pentref hefyd ac mae wedi bod yn difyrru amryw o gymdeithasau'r ardal. Er nad oedd gan deulu Alejandro gysylltiad uniongyrchol 芒 Llanuwchllyn mae ei fagwraeth yng Nghwm Hyfryd, wrth droed yr Andes, wedi bod mo Gymraeg fel ei fod wedi ymdoddi i'r gymdeithas yma mewn dim. Bydd yn chwith iawn ar dy 么l Alejandro ond dymuniadau gorau i ti ar dy daith adref ac ar dy briodas fis Chwefror.
|