Bu i mi siarad â llawer eleni - "Do, m'wn," meddai rhai ohonoch! - a'r casgliad y deuthum iddo oedd bod ysbryd ffermwyr, waeth pa sector bynnag yr oeddynt ynddo, yn is nag y bu erioed. "Pam hynny?" meddai rhai ohonoch o'r tu allan i'r diwydiant. Mae sawl rheswm: hyd y gwela' i, yr ydym wedi cael ein cyflyru sawl tro i feddwl fod pob math o bethau am achub y sefyllfa, - cwotâu, er enghraifft, a'r diweddaraf, y taliad sengl, a chynlluniau cadwraethol, - a'r gwirionedd yw nad yw'r un ohonynt wedi datrys y broblem o godi incwm i lefel dderbyniol.
Cyhoeddwyd eleni yn y sioe fawr, fel yn wir y gwnaed llynedd, fod archfarchnadoedd tramor newydd i gig oen Cymru, a bod dyfodol llewyrchus i gynhyrchwyr. Mae arnaf ofn mai cyfiawnhau swyddi yn unig a wna'r cyhoeddiad.
Yn sicr, nid oes unrhyw adlewyrchiad mewn pris. Mae hwnnw yr un lefel ag yr oedd ugain mlynedd a deng mlynedd ar hugain yn ôl. Pwy fedr ddal ati tra mae costau yn codi yn flynyddol oedd y gŵyn? Mwy a mwy o awdurdodau yn dweud wrth rywun beth i'w wneud, pryd i'w wneud a sut i'w wneud, oedd sylwadau eraill a glywais sawl tro.
A thristwch mwyaf y sefyllfa yr ydym ynddi, mae'n siŵr gen i, oedd y ffaith fod mwy a mwy o fechgyn ifanc oedd wedi aros yn deyrngar i'r tir, erbyn hyn wedi cael llond bol ac yn cefnu am swyddi y tu allan i ffermio. Rhai teuluoedd yn wir wedi buddsoddi yn helaeth mewn tir ac arallgyfeirio yn y blynyddoedd a basiodd, dim ond i weld cyfoedion yn cael llawer mwy o gyflog am lai o waith a llai o oriau.
Sawl un yn gweld cynlluniau cadwraethol yn llyncu cyfalaf ers sawl blwyddyn ac yn fuddsoddiad sydd yn gwella'r fferm yn weledol ond sydd yn straen ychwanegol cyn belled ag y mae cynhyrchu incwm yn y cwestiwn.
Pwyntiau cwbl deg i gyd na fedrwn ddadl all llawer yn eu herbyn, ond pwyntiau a ddylai fod ar ben agenda pwyllgorau gaeaf undebau a Chynulliad, problemau sydd angen eu datrys ar frys, dybiwn i.
Fu hyder o fewn y diwydiant ddim mor isel erstalwm iawn!
|