Mae'n lleoliad hwylus dros ben a chanolfan bwysig dros ben.
Yno gallwch dalu eich trethi, talu rhenti i'r cyngor, yno y cedwir goriadau tai cyngor gwag ar gyfer adeiladwyr, yno y cewch docyn teithio rhad i fws a thrên, yno yn wir y gallwch drin a thrafod unrhyw fater yn ymwneud â'r cyngor sir. Adnodd holl bwysig i drigolion y Bala a Phenllyn, ac y mae'n cael ei defnyddio'n helaeth.
Ond mae'r ganolfan hon mewn peryg. Mae yna fwriad i'w chau, a bydd ei dyfodol yn cael ei drafod yn fuan - ar y pedwerydd ar hugain o'r mis hwn. Os bydd yn cau, dyna un peth arall yn diflannu o gefn gwlad yn enw canoli ac arbed arian ond be allwn ni ei wneud? Pedwar peth o leia:
1. Mynd i'r ganolfan ar unwaith i arwyddo'r ddeiseb sydd yno yn galw am iddi gael ei chadw yn agored.
2. Ysgrifennu at y prif weithredwr i wrthwynebu'r bwriad. Dyma'i gyfeiriad: Harri Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Sir, Caernarfon LL55 1SH.
3. Cysylltu â chynghorwyr sir yr ardal, sef Elwyn Edwards, Dylan
Edwards a Dafydd Roberts.
4. Cysylltu â'r aelod seneddol, Elfyn Llwyd ac aelod y cynulliad Dafydd Elis Tomos (Swyddfa Plaid Cymru, Dolgellau) a gofyn iddyn nhw ymladd i wrthwynebu'r bwriad.
Y mae'r amser vn brin - gweithredwch ar unwaith.
|