Rwy'n eich cIywed yn dweud - beth ar y ddaear sydd yn gyffredin rhwng Bryn, Coleg y Bala a'r frenhines Elisabeth?
Wel mae gan y ddau ohonon ni ddau ben-bIwydd.
Rydych yn gwybod fod y frenhines yn dathlu ei phen-blwydd ar y dyddiad y'i ganwyd ond eto mae ganddi ben-blwydd swyddogol ac ar hwnnw bydd yn anrhydeddu mawrion y wlad - pethau fel O.B.E. neu M.B.E. ac ambell i CM. yn ogystal ag anrhydeddau eraill , megis teitl feI Arglwydd, Barwn a Syr.
Mae gen innau ddyddiad geni ac ar hwnnw y byddaf yn cofio un pen-blwydd, sef Hydref 13eg.
Disgyn y pen-blwydd hwn ar yr un diwrnod a Mrs Thatcher, Oliver Cromwell, morwyn briodas Nia a minnau a hefyd fy mam yng nghyfraith.
Ond ar Fawrth 8fed 1975 digwyddodd rhywbeth arbennig imi fel bod gennyf finnau hefyd ddau ben-blwydd.
Pan oeddwn yn bedair ar ddeg oed bu farw fy nhad, gan adael fy mam yn weddw hefo pump o bIant. Carys ac Eirian yn y Coleg, EIeri a finnau yn yr YsgoI Uwchradd a Gwen yn yr Ysgol Gynradd.
Cofiaf ddweud wrth fy hun rhyw ychydig ddyddiau ar 么l yr angladd nad oedd fawr ddim a allai fy mhoeni rhagor.
Wedi mynd trwy'r trawma o golli dad penderfynais galedu fy hun mewn perthynas a phopeth o'm cwmpas. Wnes i ddim troi yn rhyw wr ifanc blin 'angry young man', dim byd felly, dim ond penderfynu, beth bynnag fasa'n dod i'm hwynebu bellach, yna buaswn yn ei handlo.
Roeddwn ar lawer achlysur yn ddigon gwyllt, yn ddi-hid ac yn ddigon hunan feddiannol, yn mwynhau chwaraeon ac yn un o'r hogia.
Rwan, dof yn 么l at Fawrth 8fed, 1975. Roedd Eleri fy chwaer wedi trefnu i fynd i ryw gyfarfod yng Nghaergybi - cyfarfod Cristnogol, a bu wrthi ers dyddiau yn ymdrechu i'm cael i fynd yno hefo hi. Fy ymateb i oedd "Ar Nos Sadwrn? Callia wnei di."
Ond roedd un o'm ffrindiau yn ffansio Eleri a phan ofynnodd hi iddo fo fe gytunodd yn syth.
Ond dweud wnaeth Eleri y basa fo yn cael dwad ar yr amod ei fod yn fy mherswadio finnau i fynd hefyd. Yn y diwedd fe roddais i mewn a mynd hefo nhw. Ar 么l cyrraedd Caergybi gwelais fod y cyfarfod mewn Capel gyda'r blaen yn Ilawn o ddrymiau a gitars a meddyliais y basa'r gerddoriaeth yn OK.
'Doeddwn i ddim yn 'impressed', roedd yna bobl yn siarad yn bersonol iawn am y pethau yr oedd Duw wedi ei wneud yn eu bywyd nhw ac wrth iddyn nhw ddefnyddio enw lesu Grist roeddwn yn teimlo ar un Ilaw yn anghyffyrddus ac ar y llaw arall yn llawn embaras.
Ceisiais feddwl am ffordd allan ond roedd y lle yn rhy llawn imi sleifian allan.
Ar ddiwedd y cyfarfod fe ddarllenodd y dyn oedd yn arwain, Philip oedd ei enw, adnodau o lyfr Datguddiad pennod 4, "Ar 么l hyn edrychais, ac wele ddrws wedi ei agor yn y nef; a dyma'r llais, a glywswn gyntaf yn llefaru wrthyf fel s诺n utgorn, yn dweud, "Tyrd i fyny yma, a dangosaf iti'r pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar 么l hyn."
Ar 么l darllen y geiriau yma, dyma fo yn dweud wrthym am blygu ein pen tra yr oedd o yn gwedd茂o. Wnes i ddim gwrando arno fo yn gwedd茂o, yn hytrach cefais fy hun yn siarad hefo Duw ac yn gofyn, "Os wyt ti yna, Dduw, gwna wahaniaeth yn fy mywyd." Welais i'r un golau yn fflachio na chlywed llais taranllyd.
Yn dawel gofynnais i lesu Grist ddod i mewn i'm calon ac ar ddiwedd y cyfarfod euthum i lawr at yr arweinwyr gan ddweud wrthynt am fy ymateb. Nid yw bywyd wedi bod yr un fath wedyn.
Dyna pam mae gennyf ddau ben-blwydd, un ar Hydref 13eg a'r llall ar Fawrth 8fed, sef y dydd y cefais fy ngeni arno ynghyd a'r dydd y cefais fy ail eni.
W.Bryn Williams