Ond dyne fo, mae 'ne lawer tro ar fyd. Hyd yn oed y s锚l cwn defaid, a phwy fase'n meddwl am werthu the farmer's best friend!? Fel d'wedodd un ffarmwr, fasa fo byth yn gallu gwerthu ci, ond, fel d'wedodd o, y motor beic ydy'r best friend heddiw. Mae'n debyg mai Hit or Miss ydy hi pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth mewn s锚l. Rwyf yn meddwl mai T.R. Jones y twrne ddaru roi'r darian yn 1948 ac fel y gwelwch yn y llun mae Donald a John TR yn y t卯m. Os cofiaf yn iawn dyma nhw
rhes gefn o'r chwith: Donald TR; Ken Williams; mab Elis Evans Berwynfa; Gwilym Edwards, Maesygerddi gynt; John TR; R.D. Roberts, Llanfor; a J. Hopkin Evans (curad)
rhes flaen o'r chwith: mab Rees Y Coleg; Ned Plasteg; T.C. J ones (Twm Bwtsiar); ac un arall fe gewch chi benderfynu drosoch eich hunain pwy ydy'r scellyn sydd ym mhen y rhes flaen!
O feddwl am y dywediad Hit or Miss , bu fy meddwl yn troi yn 么l at y pumdegau cynnar pan oedd yna d卯m criced yn chwarae am y darian Rowen yn dwyn yr enw Hit and Miss. Mae chwarae am y darian yma yn dal mewn bod bob haf a dyma ichwi ddarlun (isod) o'r t卯m Hit and Miss a enillodd y darian ym 1952, 1954 a 1955. 'Choeliwch chi byth ond t卯m o Lanfor oedd wedi ei hennill ddwywaith, 1950 a 1951. A hyd yn oed yr oedd yna d卯m o'r Swyddfa Bost. Mae'n debyg fod yna un neu ddau sydd yno rwan ddim yn gwybod pwy ben i'r bat i gydio ynddo.
Roedd Donald a John yn gricedwyr da, yn gallu bowlio'n gyflym ac yn fatwyr da ac wedi cynrychioli'r Sir llawer tro. Felly hefyd Ken Williams (brawd Dai Jeff), roedd yn fowliwr fel mellten. Mae'n debyg mai dyna pam yr oeddem yn ennill cymaint.
'Doedd neb yn gweld y b锚l i'w thrawo'n deg! Roedd R.D. yn fowliwr llaw chwith da iawn, a Twm Bwtsiar, fo oedd yn cadw wiced ac yn fatiwr da ac yn ffistio'r b锚l i bob rhan o'r cae.
Mae'n debyg mai gwneud y rhif i fyny oedd y rhan fwyaf o'r lleill. J.Hopkin Evans, y curad, dyne ichwi gymeriad; mi fydde wastad yn gwisgo'i goler wen ac roedd wedi bod yn chwarae yn Llangollen un tro ac yn mynd am beint efo t卯m y Dre.
Hold on, medde Hopkin, let me pull my collar off first. Y tro olaf i mi ei weld oedd yn eglwys Bwlch y Cibau ger Llanfyllin. Roeddem yn bedyddio merch fy chwaer yng nghyfraith a fo oedd yn cymryd y gwasanaeth.
Ysgwyd llaw mawr: Sut wyt ti ers talwm? ac yn y blaen, a'r cwestiwn cyntaf ofynnodd oedd am drigolion y Bala, Sut mae Sali Weston, dwed? Ac roedd o'n dweud ei hanes fod yn mynd am y Church House i gynnal yr Ysgol Sul, ac fel dudodd o, Mynd tua deg munud wedi dau, ac roedd y bois yn chware cardie am bres, wsti, ac i mewn 芒 fi yn dawel bach.. roeddwn yn gwneud yn well wrth hel yr arian na hel casgliad. Trueni iddo gael damwain angeuol hefo tractor.
Roedd o'n ffond iawn o ffarmio. Ie, cymeriad a hanner oedd o, a phan oedd y b锚l yn yr awyr ac yn mynd i'w gyfeiriad o fydde 'ne floedd o rywle, Catch the bloody thing, Jack. Dyne i chi eiriau i weiddi ar gurad Eglwys Tre'r Bala!
Ron Lloyd