Dene mae pawb yn ddweud, a'r cyfan yn ganlyniad cydweithio hapus rhwng y trefnwyr a'r gwirfoddolwyr.
Ond be sy'n gneud steddfod dda? Gwahanol bethe i wahanol bobl siwr gen i, dibynnu ar y profiade gawsoch chi.
Roedd y tywydd yn help. Oedd, wrth gwrs. Ar 么l wythnosau gwlyb a phawb yn ofni'r gwaetha mi wenodd yr haul ac mi fuodd y glaw yn drugarog, yn disgyn yn ysgafn iawn pan oedd rhaid iddo fo ddisgyn o gwbwl.
Roedd y stiwardiaid yn help; rhain oedd y bobl "steddfod" cynta roedd y tyrfaoedd yn eu cyfarfod wrth barcio a chroesi'r ffordd a mynd i'r maes, a'r rhai ola wrth iddyn nhw ymadael ar ddiwedd dydd, ac mi fuo nhw yn ardderchog; yn siriol, yn ddoniol, yn garedig, yn gymwynasgar, yn creu'r argraff o'r cychwyn mai g诺yl lawenhau oedd y steddfod i fod, ac mai yno i helpu yr oedden
nhw.
Wrth gwrs roedd gwleddoedd breision wedi eu darparu ar gyfer pawb ddaeth i'r 诺yl; yn y pafiliwn mawr ei hun, yn y Babell Len, Y Lle Celf, Theatr Fach y Maes, y Neuadd Ddawns, y Ganolfan Wyddoniaeth a llawer lle arall. Ond sgwn i be fydde'r un peth arbennig, arbennig pe bai raid i chi ddewis? Yr un peth goruwch popeth arall yn y steddfod eleni?
Mi wn i fy ateb i ac mi gyfeiriaf ato cyn y diwedd.
Mi allwn i enwi llawer peth wrth gwrs fel pawb ohonoch.
Canu yn y c么r mawr ac yng ngh么r y cewri, y gymanfa ganu, cystadleuaeth y corau ar y pnawn Sul cynta, a'r corau meibion ar y Sadwrn ola, Trebor yn ennill y Ruban Glas, Sian Melangell y Fedal Ryddiaith, darlithoedd Mari Emlyn ac Emlyn Richards a straeon Harri Parri gan John Ogwen yn y Babell Len, canu'r plant yn seremoni gwobr Goffa Daniel Owen a llawer, llawer peth arall.
Mi fu yn y steddfod faterion dadleuol hefyd, a fydde'r un steddfod yn gyflawn heb y rheini. A llwyddodd pob c么r bnawn Sul, yn enwedig y rhai ddaeth i'r brig, i gyflwyno rhaglen "boblogaidd"?
A ddylai Ceri Wyn fod wedi cystadlu ar y goron ac yntau'n feirniad y gadair?
Onid oes yna wahaniaeth rhwng yr hyn sy'n gyfreithlon a'r hyn sy'n weddus?
Oni ellid bod wedi gwella'n sylweddol ar y system sain yn y pafiliwn? Oes raid i rai o gyfranwyr y Babell Len anwybyddu'n llwyr y cyfarwyddiadau ynglyn ag amser?
Mi ddisgrifiodd John Gwilym Jones yn un o'i ddram芒u y profiad o fwyta mefus fel llond ceg o felyster a chip bach o surni, a phrofiad tebyg falle ydi steddfod hefyd.
Tra bod yna lawenydd, y mae yna hefyd chwithdod, ac fe deimlwyd y chwithdod hwnnw eleni yn absenoldeb yr Archdderwydd, y Prifardd Dic Jones a'r wybodaeth am ei afiechyd, ac ym marwolaeth Emrys Jones Llangwm ychydig cyn yr 诺yl.
A dyma ddod felly at yr uchafbwynt i mi, sef perfformiad Merched Llangwm yng nghystadleuaeth y Corau Cerdd Dant, perfformiad oedd yn well hyd yn oed na Chor y Cewri, a dwi'r cynta i gydnabod hynny!
Mi roedd eu canu o ddetholiad o awdl Dic Jones i'r Cynhaeaf yn wrogaeth arbennig iddo fo, a'r hyn a fu i'w genedl a' llenyddiaeth ar hyd y blynyddoedd.
Ac wrth feddwl amdano a'i gyfraniad mae ei eiriau sy'n cyfeirio diolch am y cynhaeaf ym myd amaeth hefyd yn addas fel
geiriau diolch am ei gyfraniad arbennig ym maes llen a barddas:
Eilier mawl Huliwr y maes
Gan y dorf am gnwd irfaes
A boed hael dan grib y twr
Ei glod ar wefus gwladwr.
Ac yna eu hail ddarn, trialed gan Myrddin ap Dafydd enillodd iddo wobr yn Eisteddfod Llangwm flynyddoedd yn 么l. Eisteddfod Emrys oedd Eisteddfod Llangwm i lawer, ac yr oedd datganiad y Merched a'r gerdd i Gwm Eithin yn wefreiddiol.
Onid Emrys Jones oedd un o ddinasyddion amlyca'r cwm ac onid gwrogaeth fwriadol iddo fo oedd dewis y c么r o'r gerdd hon i'w chanu, am iddo ei warchod a sicrhau bod y cwm o hyd yn gwm y tyf ynddo gadarn werin gwlad a blodau melyn Mai i harddu bro?
Bwriadol neu beidio am Emrys Jones y byddaf fi'n meddwl o hyn allan bob tro y darllenaf eiriau gwych Myrddin ap Dafydd:
Bydd yno flodau melyn Mai
Pan ddelwyf innau i Gwm Eithin;
Bydd yno wanwyn a dim llai
Bydd yno flodau melyn Mai
A'u cloddiau'n codi drwy fy nghlai;
Bydd yno dir, bydd yno werin;
Bydd yno flodau melyn Mai
Pan ddelwyf innau i Gwm Eithin.
Mae pob steddfod yn steddfod rhywun: Llundain 1909 yn steddfod T Gwyn Jones a W J Gruffydd, Pen Bedw 1917 yn steddfod Hedd Wyn, Rhuthun 1973 yn steddfod Alan Llwyd.
Ac mi fydd steddfod 2009 yn steddfod Trebor Lloyd Evans a Sian Melangell, Ceri Wyn a Fflur Dafydd, yn steddfod pob un fu ynddi neu'n cystadlu a deud y gwir.
Ond mi fydd hefyd yn steddfod dau oedd gwaetha'r modd yn absennol; Dic yr Hendre ac Emrys Llangwm.
Gan Elfyn Pritchard