O dan y llythrennau breision TABLE WATER gellir gweld "From the well known kidney pacifying rock spring near Bala", ac o dan hynny, "St Beuno Table Water Co., Arenig St, Bala". Un o haneswyr lleol pwysicaf ein hardal flynyddoedd yn 么l oedd J. Humphrey Lloyd, neu Peryddon. Ysgrifennodd ef erthygl sylweddol iawn ar ddiwydiannau coll ystad y Rhiwlas, ac fe'i cyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Blynyddol Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd. Rhoddir cryn sylw i gynnwys pamffledyn Saesneg sydd yn disgrifio'r d诺r arbennig yma sy'n dyfynnu fod y d诺r wedi cael ei ddadansoddi i ddangos mor bur ydoedd. Mae rhywfaint o amwysedd yn y disgrifiad fodd bynnag, gan ei fod mewn un paragraff yn s么n am: ''A pure soft natural Table water from the well known spring, Ffynnon Fownog Fach, near Bala" ac wedyn yn s么n am "The Rhiwalis and St Beuno Waters Office". Sylwch ar y lluosog 'dyfroedd', sy'n awgrymu fod dau dd诺r dan sylw, un o Fawnog Fach a'r llall o 'spring" a oedd yn cyflenwi d诺r i'r tap yn y pantri yn Rhiwlas. Roedd yr erthygl hefyd yn cyhoeddi na fydd rhaid, byth eto, i bobl y Bala droi i ffynhonnau Droitwich a LIandrindod i wella llygaid p诺l gan fod ganddynt eu Pwll Siloam eu hunain yn agos adref. Sylwer hefyd mai o'r "Onen" y gwerthid y d诺r, hen dafarn ar y Stryd Fawr, sydd erbyn heddiw wedi datblygu yn ganolfan yr Eglwys Gatholig. *** Beth bynnag yw holl hanes Ffynnon Beuno dros y canrifoedd mae ei hanes ers mis Medi 1993 wedi bod o ddiddordeb i Cantref, y Gymdeithas Dreftadaeth a ddaeth i fod dechrau 1992. Bellach mae'r gwaith o wella golwg y safle wedi dod idrefn, diolch i waith cymen y tirluniwr, Eilir yr Hendre gyda chymorth Aled Jones, Cadwst Mawr. Gobeithio y gwnaiff pobl Penllyn daro heibio i weld y gwaith gorffenedig. Ymhen ychydig amser gobeithio y ceir llechen wedi ei gosod yn y safle i nodi mai dyma oedd safle Ffynnon Beuno.
|