Mae'r ystlum druan wedi dioddef ein hofn a'n beirniadaeth ers talwm, ond tybed a yw'r ofn yma'n afresymol? Pan ofynnais i'm mab a oedd ganddo awydd dod i gyfrifiad ohonyn nhw, brawychus oedd ei ymateb. Roedd rhaid i mi ddefnyddio fy holl allu fel rhiant i berswadio'r ferch i adael Buffy the Vampire Slayer a'r mab o'i g锚m Playstation. Roeddwn yn gobeithio y byddai'r noson cyfri ystlumod, yng nghyffiniau Dolgellau yn brofiad hollol wahanol iddyn nhw, ac yn lled addysgol yr un pryd.
Roedd dyffryn Mawddach yn drawiadol o brydferth wrth i ni groesi'r afon ger Llanelltyd, gyda breichiau bryniau Meirion yn disgyn fesul un i'r pellter tua'r Bermo, a Chader Idris fry uwch ein pennau a'i chreigiau'n disgleirio yn yr haul hwyr.
Ar 么l parcio'r car ar drothwy l么n gul ddeiliog, dyma ni'n cerdded i'r goedwig dywyll drom, a'r plant yn nesau at fy ochor.
Roeddwn yn falch o weld Pauline, fy nghydweithiwr, ac un sydd 芒 thrwydded i ymdrin ag ystlumod. Rhoddodd fanylion i ni am amcanion y noson. Roeddem am gyfri'r ystlum lleiaf (Pipistrellus pipistrellus) y llun isaf yn gynta, ac wedyn yr ystlum pedol lleiaf (Rhinolophus hipposideros) y llun uchaf.
Esboniodd wrth y deg gwirfoddolwr lle i sefyll a sut i ddefnyddio'r offer, fel thymomedr, ditectif electronig a dyfais mecanyddol i gofnodi'r cyfri.
Fe sylweddolais nad noson arferol oedd hon - roedden ni yng nghwmni'r boblogaeth fwyaf o'r ystlum pedol lleiaf yn Ewrop o bosib.
Roedd hi'n noson olau, felly daeth yr ystlumod ddim allan mor fuan ag arfer. Gadewais y plant yn holi gwirfoddolwyr yn chwilfrydig, ac mi es am dro o gwmpas y gerddi. Siaradais gyda'r perchnogion, a sylwais mor oddefgar oedden nhw o'r prysurdeb o gwmpas eu cartref a'r lluoedd toreithiog o wybed! Ond am naw o'r gloch, a hithau'n nosi fe ddaeth yr ystlum cyntaf allan. Diflannodd yn fuan i fwydo ar y 3000 o bryfed mae'n eu bwyta mewn noson.
Ar ei 么l, daeth 1,268 o ystlumod eraill, drwy dwll llai na maint ceg cwpan o dan y to. Roedd y gwirfoddolwyr yn gorfod rhoi eu holl sylw i'r cyfri, eu pennau tua'r to, eu llygaid yn craffu a'u bodiau yn nodi bob tro y daeth unigolyn newydd i'r golwg. Fe ddaeth ambell ystlum pedol lleiaf i hedfan yn isel o'n cwmpas, fel pe baent yn archwilio eu cymdogion newydd.
Fe aethom adref yn nhywyllwch y nos, yn llawn brwdfrydedd ac wedi mwynhau'r achlysur yn arw. Mae'r plant yn meddwl bod ystlumod yn cwl!
Jonathan Neale
Uwch Swyddog Cadwraeth, Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae yna 16 rhywogaeth o ystlum yng Nghymru, ac maent i gyd, a'u cartrefi, yn cael eu gwarchod o dan y gyfraith. Yn gyffredinol des dim perygl i iechyd dynol gan ystlumod ond os bydd pobl yn dod i gysylltiad agos, mae yna bosibilrwydd dal heintiau drwy gyffyrddiad. Os hoffech fwy o wybodaeth am ystlumod, cysylltwch 芒'r Cyngor Cefn Gwlad ym Mangor (ffoniwch 0845 1306229)