³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Leusa yn ei hamoc O'r Ariannin
Mai 2010
Mae Leusa Fflur, o Lanuwchllyn wedi mentro i Dde America i ddilyn ôl troed testun ei gwaith ymchwil,T Ifor Rees.

Mae wedi cytuno i anfon rhyw bwt i ni yn disgrifio ei thaith o fis i fis a dyma i chi'r cyfraniad cyntaf.

Cyfarchion o'r Ariannin!

'Dwi wedi cyrraedd Puerto Iguazu bellach - lle mae'r rhaeadrau enfawr byd-enwog.

Mae'r tymheredd yn 'annioddefol o boeth - a phryfaid enfawr ymhobman. Rydw i'n bigiadau mosgito i gyd, ond mae'n bris bychan i dalu am y pethau anhygael 'dw i wedi eu gweld yma.

Mi gychwynnon ni ein taith yn Rio de Janeiro - canolbwynt partio Brazil, a chanolbwynt bananas y byd.

Mae bananas ar y pizzas, mewn brechdanau, wedi eu cuddio mewn salads - maen nhw mhobman!

Mi es i weld y Cerflun Crist enwog, ond roedd o'n cael i lanhau, ac yn scaffolds enfawr drosto i gyd - donial iawn!

Yna mi aethon ni ar drip i weld y favelas, sef cymunedau'r bobl tlawd.

Roedd yn rhaid i ni gymryd lifft ar gefn moto-beic i fyny'n uchel i dap y bryniau lle mae'r bobl dlawd yn parhau i dorri coed ac adeiladu tai chwit-chwat yn anghyfreithlon.

Roedd y moto-beic yn gyrru'n wirion o gyflym ac yn gwibio heibio gaps bychain rhwng bysus a loris a dros dyllau enfawr yn y ffordd.

Roedd yna ddynion yn dod i'n cwfwr ni i lawr yr allt a'u gynnau yn eu dwylo - y barwniaid cyffuriau yn cadw lIygaid ar y gymuned.

Oherwydd fod y gymuned yn anghyfreithlon, doedden nhw'n yn talu trethi.

Felly roedd sbwriel ymhobman, a'r plant bach, y cŵn tenau, y IIygod mawr a'r ieir i gyd yn chwarae yn ei ganol - a ninnau yn ein fflip-fflops yn cerdded heibio i gyfeiliant bloeddiadau o "gringos... gringos!".

Gadael Rio am IIha Grande wedyn - paradwys o draethau gwynion a choed palmwydd.

Yno, fe welsom ni hen garchar lle'r oedd mewnfudwyr o Ewrop yn arfer cael eu dal i atal afiechydon rhag lIedaenu i'r byd newydd.

Roedd planhigion wedi lIyncu'r lle erbyn hyn, ond o grombil y porth tywyll mi glywsom ni sŵn clicio rhyfedd... dyma fynd i graffu i weld be oedd yno, a be welson ni ond cranc enfawr (maint pêl . droed) glas fel pe bai'n gwarchod ei gastell!

Wedyn daeth y lIifogydd enfawr - glaw gwlyb; glaw gwlypach nag unrhyw law a welais i eriaod yng Nghymru, coeliwch fi neu beidio.

Felly ffwrdd a ni ar fws am 16 awr, a dyma ni wedi cyrraedd yr Ariannin.

Hyd yn hyn mae hi yn sych yma, ac mae sôn fod paned o de i'w gael ym Mhatagonia...!

Hasta Luego, Leusa Fflur.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý