³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Glian a Glesni Dwy o sêr Penllyn
Hydref 2005
Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Bu Glian Llwyd o Gefnddwysarn a Glesni Fflur o Lanfor yn cystadlu yng Nghaernarfon fis Medi am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Gwobr o £4,000 i'r enillydd a'r bro o fod wedi cyrraedd y brig wrth gwrs. Darllenwch adroddiad ein gohebydd ar y noson, Elfyn Pritchard:

Galeri Caernarfon oedd y lle i fod ynddo nos Wener diwethaf, Medi 16eg pan oedd wyth o ieuenctid mwyaf talentog ein cenedl yn ceisio ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel, ysgoloriaeth sy'n werth £4,000 i'r enillydd. Dyw Cymru ddim yn wlad fawr ond roedd hi'n rhyfeddol yn wir fod dwy o'r waith yn y gystadleuaeth yn dod o Benllyn, a'r ffaith honno yn adlewyrchu cyfoeth y talentau sydd gennym yma, yn yr ardal hon.

Y ddwy oedd Glian Llwyd o Gefnddwysarn a Glesni Fflur o Lanfor, ac yr oedd y noson ar ei hyd yn brofiad gwerth ei gael i bawb oedd yno. Roedd yr wyth wedi ennill yn eu cystadleuaeth unigol dan bump ar hugain oed yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, ac felly'n naturiol roedd eu cyflwyniadau yn adlewyrchu'r cystadlaethau hynny, ond heb fod wedi eu cyfyngu i hynny chwaith.

Y gofyn oedd am raglen hyd at ddeuddeg munud o hyd ac enillydd y gystadleuaeth oedd y ddawnswraig Lowri Walton, ond yn wir gallasai unrhyw un o'r wyth fod wedi ennill gan mai tipyn o loteri yw'r gystadleuaeth pan fydd talentau mor ddisglair yn ymgiprys â'i gilydd, ac roedd hi'n amlwg oddi wrth sylwadau Daniel Evans ar ran y chwe beirniad, fod yna gryn anghydweld yn eu plith.

Dau ddatganiad ar y piano gafwyd gan Glian Llwyd, Ballade gan Chopin ac un symudiad o Sonata gan Ginastera. Roedd y darn cyntaf yn ardderchog, roedd yr ail yn wefreiddiol, ac fe gyfeiriodd Daniel Evans at y perfformiad ohono fel un o uchafbwyntiau'r noson. Unawd cerdd dant, monolog ac unawd o sioe gerdd gafwyd gan Glesni Fflur - tair eitem hollol wahanol yn arddangos ehangder ei doniau, a'r monolog yn arbennig yn gyflwyniad cofiadwy ac ingol o ddryswch meddwl merch ifanc wedi colli ei babi.

Cyn y cewch gyfle i ddarllen hwn, byddwch wedi gweld y gystadleuaeth ar y teledu a siawns yn teimlo'n falch eich bod yn Gymry. Roedden ni oedd yn Galeri nos Wener yn teimlo'n falch ein bod yn dod o Benllyn ac yn teimlo rhyw berchnogaeth ar y ddwy seren o'r ardal hon oedd yno yn disgleirio.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý