Derbyniodd ei gradd mewn Iechyd Cyhoeddus yng Ngwledydd y Trydydd Byd.
Mae Elin wedi gweithio yn Ethiopia, Darfu, Pakistan, Chad ac Ethiopia fel un o dìm Medicins Sans Frontiers (MSF). MSF yw'r mudiad mwyaf o'i fath yn y byd ac yn cynnig cymorth meddygol a dyngarol annibynnol, lle bynnag y bo'i angne, heb ystyried na hîl, na chrefydd, na gwleidyddiaeth, na rhyw y sawl sydd yn dioddef. Maent yn ogystal yn codi ymwybyddiaeth am gyflwr y bobl maent yn eu helpu. Mae Elin wedi derbyn swydd yn ddiweddar fel Cydlynydd Meddygol MSF yn Juba, prifddinas ranbarthol De Sudan a dymunwn yn dda iddi hi ar ei chweched taith dramor. Pethe Penllyn
|