Pe bae wedi arwain at fwy o ddoethineb parthed Ir谩c efallai y byddai'r hen Tony Blair yn debycach o'i le am y trydydd tymor fel Prif Weinidog!Ond chwi sydd dros 60 oed, mae'n si诺r fod gan rai ohonoch eich atgofion.
Mae'r unig un o olygyddion y papur yma sydd yn cofio'r flwyddyn yn cofio beth a ddigwyddodd yn Llandderfel ar noson olaf y Rhyfel ...
Yr oedd yn amlwg fod gwaetha'r rhyfel drosodd ers misoedd a chefn gwlad yn dechrau dod ati ei hun. Yn y Bermo yr oedd cwmni Trai a Llanw yn actio yr hyn a elwid yn 'operetta' sef rhyw ddrama gerddorol ysgafn efo digon o hwyl a miri. Yr oedd y geiriau gan hogyn o blwyf Llandderfel a'r gerddoriaeth gan Idris Lewis a oedd yn drefnydd cerddoriaeth i'r 成人论坛 yng Nghaerdydd.
Yr oedd ambell ganwr o du allan i Ardudwy wedi ei recriwtio hefyd i sicrhau bod digon o leisiau dynion, Gemma Jones, Cwm Main a Ieuan Jones, T欧 Capel Llidiardau wedyn, i enw dau.
Stori am gwch yn gadael y Cei a mynd am Banama ydoedd. Roedd 'na longwyr tir sych oedd wedi colli'r cwch (yn 么l eu harfer); roedd yna ful glan y m么r - un o Benllyn oedd ei ben-么l! Pan gyrhaeddodd y llong yn 么l yr oedd y Capten wedi dod 芒 gwraig dywyll efo fo a honno mewn sgert wellt, ac felly ymlaen - rhywbeth i godi ysbryd pawb mewn tref oedd yn gwybod am y digalondid mawr a ddaeth yn sg卯l y rhyfel, ac a gerfiwyd mewn carreg yn ddiweddarach.
Ac nid dim ond ar gyfer pobl Bermo y cynhyrchwyd yr operetta. Dechreuodd fynd o gwmpas y wlad efo'r glannau fwyaf, nes cael gwahoddiad i Landderfel ar gyfer Mai 10fed 1945. Ac yno yn y Pafiliwn yr oeddynt yn codi'r llwyfan pan ddaeth y newydd mawr am ddiwrnod y rhyfel.
Fel pob drama, bryd hynny, yr oedd Llywydd y noson neb llai na'r Brigadydd E.O. Skaife a oedd yn byw yng Nghrogen ar y pryd, a bid si诺r, caed araith wladgarol dwymgalon. Ac fe ganwyd Duw Gadwo'r Brenin gydag arddeliad! Yr oedd y mwyafrif mawr ohonom yn Brydeinwyr yn y blynyddoedd hynny! Ond roedd y Brigadydd, er cymaint ei fri milwrol cynt a'i gefndir o dras, wedi dysgu Cymraeg ac fe roddodd delyn yr un i bob Aelwyd yr Urdd o fewn y sir. Mae telyn Aelwyd y Bala a thelyn Aelwyd Llanuwchllyn yn dal ar gael i blant ddysgu chwarae arnynt.
Dyma ddyfyniad o lythyr a dderbyniwyd yn y Bermo yn fuan wedyn:
Pant y barcud, Llandderfel
Mai 11ef, 1945
Annwyl Mr Williams,
Nid oes ball ar y canmol, dyma'r dr锚t fwyaf ers llawr dydd yn y Llan. Hyderaf yn fawr eich bod oll wedi mwynhau eich hymweliad yma a siwrnai gysurus yn 么l i'r Bermo.
Os byddwch yn bwriadu gwerthu coesau 么l y mul, byddaf yn falch o gael cynnig arnynt, yn lle y rhai sydd gennyf.
Gwerthfawrogwyd eich aberth yn dod ar ddydd ddigwyddodd fod yn bur anhawdd. Y derbyniadau heb fod ymhell o 拢65.
Cofion cynnes,
Goronwy.