Ddydd Mercher, Hydref 22 rhwng 2 a 6.15
y pnawn yr oedd cyfle i unrhyw un alw
yng Nghanolfan Bro Tegid i gael cipolwg ar gynlluniau newydd i roi cartref i 30 o bob i mewn fflatiau ar dir wrth ymyl Cysgod y Coleg.
Bydd hwn yn ddatblygiad modern, bydd gan y fflatiau erddi ac fe fydd modd i dîm gofal gael mynediad unrhyw awr o'r dydd a'r nos.
Bydd y trigolion yn gallu edrych ar ôl eu hunain i raddau helaeth ond bydd y gofal angenrheidiol ar gael iddynt hefyd pan fo angen hynny.
I sicrhau y datblygiad yma mae Cyngor Gwynedd yn cydweithredu â Chymdeithas Tai Clwyd a bydd y datblygiad yn un o'r safon uchaf.
Bu ein Cynghorydd Sir, Mr Dylan Edwards, yn
annog trigolion lleol i ddod i weld y cynlluniau ac yn wir i gael cipolwg ar du fewn y tai (trwy ryfeddod cyfrifaduron) hyd yn oed, a hefyd i wneud awgrymiadau a gaiff eu hystyried gan y tîm datblygu o hyn i adeg cychwyn ar yr adeiladu yn 2009/10.
|