"Meddyliais y dylwn adael i chwi wybod ein bod i gyd yn ddiogel ac mewn iechyd - hyd yn hyn beth bynnag.
Mae'n nos Fercher 11 eg
Chwefror a'r hinsawdd yn llai poeth
Nag y bu ond yfory disgwyliwn
Wyntoedd o'r De-Ddwyrain ac fe gaiff ein dinas ein gorchuddio
Gan gymylau mwg o'r tanau yn Gippsland, yn nwyrain talaith Victoria.
Mae darnau o'r dalaith o un pen i'r llall wedi dioddef tanau. Deuchreuasant o ddifri ddydd Sadwrn diwethaf - gwyddem y byddent yn danau drwg iawn gan fod y tymheredd mor uchel a gwyntoedd mawr iawn o'r gogledd, a'r gwynt ei hun bron yn rhy boeth i'w oddef. Cawson danau tebyg o'r blaen ond dyma'r gwaethaf erioed am fod tymheredd yr ardal mor uchel a 47 Celsius ym Melbourne.
.Nid
oedd dim modd eu gwrthsefyll ond fe fu dynion tân (gwirfoddolwyr gan fwyaf) wrthi yn gwneud eu gorau. Disgwylir y bydd tua 300 o'r boblogaeth wedi colli eu bywydau. Mae Sean (y mab) yn paramedic ac wedi bod yn brysur iawn yn delio efo cleifion sy'n dioddef sgîl-
effeithiau y gwres.
Daeth y tan mwyaf o fewn i rhyw siwrne awr oddi wrthym, ond yr ydym allan o'r ardal goediog wledig
trwy Iwc.
Mae nifer mawr iawn wedi
colli ei cartrefi a'u pethau ond mae
ewyllys da rhagorol tuag atynt - miliynau o ddoleri wedi eu cyfrannu,
a chymaint o barseli bwyd, tegannau
ac ati na ellir byth eu defnyddio. Yr
ydym ni yma yn helpu i warchod anifeiliaid anwes di-gartref ac anifeiliaid byd natur sydd wedi colli
eu cynefin.
Er bod paratoadau mawr wedi digwydd ers y
y tanau diwethaf fe aeth y tannau presennol allan o reolaeth
mewn dim o dro!"
|