Dilys, fel y gŵyr pawb ohonoch, yw ein trysorydd trefnus a thaclus, sy'n cadw'n pennau uwchben 'y dŵr ariannol' .
Wedi'r briodas ddistaw ddistaw aeth pawb ymlaen i
Bortmeirion i ddathlu. Treuliwyd y Mis Mel yng Ngwlad Thai. Bu bron i ni byth eu gweld eto gan
iddynt fod yng nghanol y Brotest fawr yno ychydig cyn y Nadolig, lle nad oedd neb yn cael mynd i'r
wlad na dod ohoni! Ond adre y daethant yn y diwedd! Dymunwn bob hapusrwydd i chwi'ch dau. Llongyfarchiadau oddi wrth Aelodau Pwyllgor Pethe Penllyn a'r Golygyddion.
|