³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Cerddwyr Edeyrnion Awn am Dro
Ebrill 2006
Mae 'cerdded' yn ffordd boblogaidd iawn erbyn hyn o fwynhau ein amser hamdden, ac rydym i gyd, mae'n siwr yn gyfarwydd iawn a theithiau diddorol a hardd yn ein hardaloedd ein hunain.

O ddechrau'r Gwanwyn yn y flwyddyn 1991 daeth criw Cerddwyr Edeyrnion at ei gilydd i droedio llwybrau Edeyrnion, ac rydym wedi crwydro gwahanol ardaloedd hefyd, y mynyddoedd a'r arfordir - rhai pell ac agos.

Erbyn hyn rydym hefyd yn trefnu penwythnosau cerdded.

Teulu clos o 60 o wÅ·r, gwragedd a phlant ydym - yn Gymry, Saeson, ac ambell i ddysgwr (yn falch o'r cyfle i ymarfer yr iaith).

Cyn ymuno ag unrhyw glwb cerdded mae'n hynod bwysig fod gennych esgidiau cerdded cryf, gyda dillad glaw, dillad cynnes, diod a phecyn bwyd a man bethau eraill i'w rhoi mewn pac ar eich cefn, ac mae'r hen ffon wrth gwrs yn help mawr bob amser.

Un o'r teithiau wnaethom mis Ionawr eleni, dan arweiniad Mr Len Harrison, Siambar Wen, oedd i Ben Foel.

Aeth 27 ohonom ar y daith ac wyth arall yn dewis taith mwy hamddenol o Gorwen, ar hyd yr hen reilffordd, i Gynwyd ac ymlaen i Siambar Wen.

Cychwynnodd y 27 ohonom o fuarth Siambar Wen, dringo ar i fyny am Blaengwnodl Ucha, cartref y diweddar Athro Syr Rees Davies.

Dal i ddringo tuag at Ben Foel, mewn tywydd braf a'r camerâu yn brysur iawn yn ceisio cofnodi'r golygfeydd clir hyfryd. Diod bach ar y copa, ac yna i lawr am ffordd Sarn Helen, ac ymlaen i'r man rhamantus - Llyn Mynyllod ar yr ucheldir rhwng Cynwyd, Llandrillo, a Glanrafon.

Seibiant yma i fwynhau y pecyn bwyd, sydd bob amser yn blasu'n dda yn yr awyr iach.

Yn ôl i Ffordd Sarn Helen a chychwyn dros fynydd Mynyllod i lawr am goedydd Branas i ffordd top Branas Lodge a dilyn y ffordd heibio Tyfos yn ôl i Siambar Wen.

Wedi cyrraedd Siambar Wen roedd 'ne sypreis yn aros un o aelodau ffyddlonaf y Clwb, sef Rhys 'y sweep'.

Roedd yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain oed, ac roeddem wedi trefnu parti bach iddo. Pawb yn mwynhau'r wledd a'r dathlu. Diolch i Mr Len Harrison am arwain y daith.

Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â'r criw i droedio a dringo llethrau gwahanol ardaloedd.

Rydym yn trefnu teithiau noddedig at wahanol elusennau, ac erbyn hyn mae'r Clwb wedi codi ambell i fil o bunnoedd at achosion da.

Ym mis Medi bydd ein pererindod blynyddol yn mynd i Eglwys hynafol y Santes Melangell, ac wedi cyrraedd byddwn yn cael gwasanaeth byr cyn troi am adref.

Gan Annie Jones, Cynwyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý