Bydd hi'n gweithio'n wirfoddol i'r mudiad Uganda Rural Fund sydd yn hybu prosiectau yn y gymuned megis gweithdy gwneud basgedi,
cynlluniau cadw ieir a moch a 'Benthvg Hadau'. Mae'r mudiad hefyd yn bywsig ym myd addysg, yn rhedeg academi, llyfrgell a chlwb plant ar ôl ysgol yn ogystal â cheisio lledaenu gwybodaeth am iechyd a glendid yn y gymuned. Bydd Estyllt yn gadael ar y 9fed o Ragfyr ac yn aros yn Kyetume am bump wythnos. Mae hi'n ddiolchgar i bobl Llanuwchllyn am ddod i'r swper yn y Neuadd Bentref Nos Sul, 8fed Tachwedd, ac am gyfrannu'n hael i Apêl Plant Affrica, ac rydym ninnau yn dymuno'n dda iddi hi ar ei thaith i Uganda ac yn ei harhosiad yno. Hwyrach gawn ni glywed ei hanes pan ddaw hi adre yn y Flwyddyn Newydd. Pethe Penllyn
|