成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
Alan Edwards O'r Bala i Bantycelyn
Tachwedd 2003
Gwr ifanc o'r Bala yw Warden newydd un o Neuaddau Preswyl enwocaf Cymru.

Cynddisgybl o Ysgol Y Berwyn yw Alan Edwards sydd bellach yn ymgymryd 芒'r gwaith cyfrifol o ddilyn yn 么l traed enwogion megis Dr John Davies, Dr Gareth Edwards a Dr Geraint Evans. Mae Alan yn fab i Mr a Mrs Glyn Edwards, Cae Bach, brawd i Paul a Linda.

Wrth edrych ymlaen at ei swydd newydd, mae gan Alan lawer i ddiolch i'r ardal lle'i ganwyd a'i magwyd. Cefndir Cymraeg a Chymreig sydd ganddo, a chyn gadael ei fro enedigol ym Meirionnydd, yr oedd wedi dysgu ymhyfrydu yn ei iaith a'i ddiwylliant. "Dyddiau da oedd y rheini yn y Bala," meddai. (Pan oedd yn y 6ed dosbarth, ef a gymerodd ran Y Brenin Ri yn "Nia Ben Aur".)

Gadawodd ei fro enedigol yn Meirionnydd, ac Ysgol Y Berwyn, Y Bala, lle gwnaed ef yn Brif Fachgen, a mynd i Brifysgol Cymru Aberystwyth. Yno astudiodd Hanes, Daearyddiaeth, a Drama yn ei flwyddyn gyntaf cyn parhau 芒'i astudiaethau mewn Daearyddiaeth.

Ni wastraffodd Alan amser o gwbl cyn ymaflyd ym mywyd cyffrous myfyriwr yn Aberystwyth. Yn ystod ei ail flwyddyn yn y coleg, penodwyd ef yn Swyddog Academaidd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth gyda'r bwriad o greu cyswllt rhwng y myfyrwyr a'u hadrannau. Cafodd y profiad, tra oedd yn y swydd hon i wneud yr hyn sydd mor bwysig iddo hyd heddiw, sef i roi clust parod i wrando ar gwynion a gofidiau ei gyd-fyfyrwyr. "Yn sicr," meddai, "bu fy ngwaith yn ystod y flwyddyn hon yn sail gadarn i adeiladu fy ngyrfa arni."

Cafodd Alan brofiad helaeth o gynorthwyo myfyrwyr hefyd pan adawodd Aber a mentro i'r Brifddinas, lle cafodd gynnig swydd gan Gymdeithas Tai Hafod. Mewn cyfnod o ychydig flynyddoedd llwyddodd i ennill cymhwyster 么l-radd mewn Tal a Chynllunio, i gynorthwyo'r di-gartref, ac i fod yn rheolwr llety yng ngholeg UWIC yng Nghaerdydd.

Ni fu'n hir lawn cyn i'r hiraeth am Aberystwyth ei lethu, ac ym Medi y llynedd cafodd swydd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Cymorth i Fyfyrwyr. Fel rhan o'i swydd, daeth yn warden ar nifer o neuaddau preswyl yn cynnwys Pentref Jane Morgan, Brynderw, Llanbadarn, Penbryn a'r Neuaddau ger y m么r.

Gyda'r neuaddau hyn i gyd o dan ei adain, pam dymuno ychwanegu Pantycelyn, a'r holl gyfrifoldeb sydd ynghlwm wrthi, at ei restr? "Cyfnod cofiadwy lawn i mi oedd fy nghyfnod ym Mhantycelyn fel myfyriwr", meddai, ac un o'm prif obeithion yw rhoi'r un cyfle a gefais i i fyfyrwyr heddiw."

"Mae'r awyrgylch a'r gymdeithas glos sydd yno yn unigryw, ac mae'n sylfaen ddelfrydoli Gymry Cymraeg neu ddysgwyr sy'n dymuno byw mewn awyrgylch fel hon." Ond er cymaint mae'n ysu am ddechrau ar ei sialens newydd o greu awyrgylch hapus, cyfeillgara diogel i fyfyrwyr, mae ambell beth yn ei boeni. Brawychus braidd yw'r syniad o fod yngymydog am y tro cyntaf i 260 o bobl ifanc bywiog!

Pob hwyl iddo ar ei waith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy