Cyflwynir y Tlws bob tair blynedd am gyfraniad unigolyn i lenyddiaeth plant ein gwlad. Mae'r Tlws yn coffau un a roddodd gyfraniad sylweddol iawn i lenyddiaeth plant. Gweddus iawn oedd hi eleni i Elfyn dderbyn yr anrhydedd yma a hynny yn sgil ei lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen. Dros y blynyddoedd mae Elfyn Pritchard wedi cyfrannu yn helaeth i lenyddiaeth plant wrth ysgrifennu nofelau, straeon byrion ac erthyglau yn ymwneud ag ysgrifennu. Mae hefyd yn addysgwr ac i athrawon Cymru bu yn aelod o'r t卯m a ddaeth 芒 chynllun iaith bywiog a gwerthfawr i'r ysgolion - Cynllun y Porth. Ef hefyd sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am ddiweddaru'r Cynllun yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Talwyd teyrnged haeddiannol iawn i gyfraniad Elfyn gan Lionel Madden, Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru, cyn cyflwyno'r Tlws hynod hardd iddo. Mae'r Tlws ar ffurf llyfr agored o bren derw golau. Ar y llyfr gwelir plentyn yn lled orwedd yn gwylio rhai o gymeriadau llyfrau Mary Vaughan Jones, ac yn eu mysg mae yr enwog Sali Mali. Mae'r cymeriadau wedi eu gwneud o arian pur gan y gof enwog o Dregaron - Rhiannon. Yn sicr bydd Elfyn Pritchard yn trysori'r anrhydedd ddiweddaraf a ddaeth i'w ran a llongyfarchiadau mawr iddo.
|