Yno bydd cartref y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth Gwerin ac o'i mewn bydd arddangosfa aml-gyfrwng, awditoriwm ar gyfer cyngherddau a chaffi-bar.
Enw od, meddech chi.
Deallwn fod y ganolfan wedi cael yr enw yma i gofio am delynor o Lanfachreth, Elis Sion Siamas, oedd yn byw ddechrau'r ddeunawfed ganrif, ac y tybir mae ef oedd y cyntaf i gyflwyno'r delyn deires i Gymru.
I nodi'r cychwyniad newydd yma mae Roy Saer, Llywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, wedi cyflwyno rhestr hir o gylchgronnau perthnasol i'r diwylliant Canu Gwerin, Cerdd Dant a Dawnsio Gwerin yng Nghymru i DÅ· Siamas. Rhyngddynt mae'r rhain yn adrodd cyfrolau am y traddodiad gwerin yng Nghymru.
Yn y llun mae Mai Parry Roberts, un o Gyfarwyddwyr TÅ· Siamas gyda Roy Saer.
Llongyfarchiadau i'r criw di-flino sydd wedi bod wrthi yn Nolgellau yn hybu'r weledigaeth yma. Mwy am TÅ· Siamans yn ein hadran werin
|