Mae Trevelin ac Esquel wedi cael cryn sylw dros yr wythnosau diwethaf wedi i fynydd Chaiten dros y ffin yn
Chile ffrwydro am y tro cyntaf ers miloedd o flynyddoedd a thywallt ei ludw i gyfeiriad Ariannin. Chwith iawn oedd clywed Margarita Green yn dymuno cael rhyw Fimosa newydd i gludo trigolion Cwm Hyfryd i gyd yn ol i Gymru o'r llwch a'r tristwch.
Bu'r criw a deithiodd gyda Chôr Godre'r Aran fis Tachwedd yn ddigon ffodus i weld Cwm Hyfryd ar ei orau.
Anodd iawn yw ¬disgrifio harddwch y Cwm a'i apêl, ond os
gallwch chi ddychmygu dyffryn ffrwythlon llawn tyfiant wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd uchel a'u copaon i gyd yn wyn a'r cyfan fel petai'n disgleirio yn yr haul dan awyr las danbaid a rhyw dawelwch dwfn o'ch cwmpas ym mhob man mi fydd gennych ryw syniad o'r darlun.
Roedd hi'n haf cynnar pan oeddem ni'n cyrraedd wrth gwrs, ac yn digwydd bod ~- ¬
roeddem yno ar yr union gyfnod y daeth y Cymry o hyd i'r lle am y tro cyntaf ac
y rhoddwyd yr enw 'Cwm Hyfryd' arno. ¬
Criw dan arweiniad Rhaglaw Chubut ar y pryd, gŵr o'r enw Luis J Fontana oedd yr ¬Ewropeaid cyntaf i ddarganfod yr ardal.
Roeddent wedi cytuno i deithio'r wlad gyd¬a Fontana iddo gael gweld y diriogaeth oedd dan ei reolaeth.
Gwelwyd Mathew Rhys yn gwneud yr un daith ar y teledu yn gymharol ddiweddar.
Y Rifleros oedd yr enw a roddwyd ar y criw, ac roedd un neu ddau yn sicr â chysylltiadau a Phenllyn yn eu plith, David
P Roberts, mab Cambrian, Llanuwchllyn yn un, ac mae sôn am 'Jones Pantmarch' y criw hefyd.
Roedd hi'n antur fawr iddyn heb wybod beth oedd o'u blaenau yn iawn er bod un o'r criw, John Daviel Evans, wedi crwydro llawer iawn ar y paith cyn hynny ac wedi gorfod ffoi rhag y brodorion ar ei geffyl enwog Malacara, wrth gwrs.
Yn ôl cofnod John Daniel Evans o'i daith fe gyrhaeddodd y fintai Gwm Hyfryd dros y Graig Goch ar 25 Tachwedd 1886, ac fel hyn mae'n disgrifio'r olygfa o ben y graig 'gwelem yr holl fro dan fantell o niwl tew
nes peri i'r olygfa fwyaf rhamantus a welodd ein llygaid erioed'.
Ond y bore wedyn
i'r niwl godi y gwelsant y Cwm mewn ¬gwirionedd ac y dywedodd un o'r Cymry 'Wel, dyma Gwm Hyfryd' a rhoi ei enw i'r lle yn syth.
Er mwyn cofnodi'r daith fawr honno mae pobl Trevelin yn dal i gynnal dathliad yn flynyddol. Rhan bwysig o'r dathliad yw'r orymdaith drwy'r dref ac mae disgynyddion y 'Rifleros' gwreiddiol yn cae lle blaenllaw.
Maent yn cychwyn o'r Graig Goch noson cyn y dathlid ac yna ar ben y graig cyn teithio i lawr i'r Cwm a chael asado fawr wrth 'Ysgol 18' cyn treulio noson yno.
Mae i Ysgol 18 le pwysig yn hanes Ariannin hefyd gan mai yno y gofynnwyd i drigolion, - ¬
Cwm Hyfryd bleidleisio a oeddynt am fod yn rhan o Ariannin neu Chile.
Oherwydd iddyn
nhw bleidleisio dros aros yn rhan o Ariannin yn mynd y cadwodd y wlad ei gafael ar yr ardal i gyd.
Mae amgueddfa fechan yn yr hen ysgol erbyn hyn i nodi ei phwysigrwydd.
Roedd dydd Sul 25 Tachwedd 2007 yn, diwrnod mawr i Drevelin felly, ac roedd Côr Godre'r Aran yn rhan bwysig o'r dathliadau gan iddynt gael cynnal cyngerdd y noson honno yn y dref.
Daeth cynulleidfa fawr ynghyd i fwynhau'r cyngerdd ac roedd gweld Alejandro Jones a'i frawd Leonardo yn rhan
o'r cyngerdd yn gwneud i ni i gyd deimlo fel un teulu mawr yno. Cludwyd ni wedyn mewn
bysiau i faes awyr Trevelin ac mewn 'hangar'
anferth yn y fan honno cafwyd gwledd i'w chofio.
Roedd Alejandro A Leonardo wedi bod yn brysur cyn y cyngerdd yn paratoi
asado hyfryd i ni, roedd yn rhaid cael canu wedyn wrth gwrs a do mi aeth hi'n noson hwyr (iawn, iawn i rai).
Yn ei nodiadau ar y daith gyntaf mae
John Daniel Evans yn sôn amdano ei hun yn mynd i ganol mynyddoedd yr Andes uwch ben y cwm ac mae'n dweud fel hyn: 'o, mor ardderchog oedd yr olygfa o'r fan yma,
pinaclau gwynion yr Andes ddisgleirient yn
yr haul, rhai i'r Gogledd, De a Gorllewin a
theimlwn yn hiraethus wrth ymadael â'r
olygfa' - a dyna ein profiad ninnau. Beryl Griffiths
I