Roeddent yn gadael Llandrillo ddyd sadwrn, Mawrth 10fed ac yn hedfan draw i Adeilaide for Llun, Mawrth 12fed lle maent yn bwriadu gwneud eu cartref newydd. Trydanwr ydy Simon, ac Eirian wedi dilyn cwrs NNEB. Mae galw mawr yn Awstralia am drydanwyr ac am ofalwyr plant trwyddedig. Derbyniwyd Simon fel trydanwr ar unwaith, yn dilyn cyfweliad mewn ymgyrch recriwtio gan y wlad. Bydd noddwyr yn y maes awyr yn Adeilaide i'w croesawu, i'w tywys i'w cartref newydd (mae'r wlad yn paratoi tŷ iddynt am 3 mis), ac i'w cyflwyno i'r ardal lle byddant yn byw - yr ysgolion, y siopau, y cymdeithasau ayyb am ryw fis neu ddau. Roedd Sam yn awyddus iawn i ddweud wrthyf fod Anti Bethan yn bwriadu dod draw yno dros y Nadolig a dwi'n siŵr y bydd teulu Llechwedd a theulu Glenys yng Nghaerdydd yn brysur yn cynllunio gwyliau i Adelaide ar gyfer y flwyddyn nesaf!
Felly, dymuniadau gorau o Landrillo i chwi'ch pedwar, a gobeithio fod tÅ· doli Cara wedi cyrraedd yn ddiogel gyda gweddill y dodrfen wedi'r fordaith hir o Brydain!
|