Heuwyd hedyn a fyddai mewn amser yn egino a thyfu i fod yn un fudiadau pwysicaf Cymru, Merched y Wawr.
Ac yn Y Bala, Dydd Sadwrn Mehefin y 9fed, daeth dros fil o aelodau Merched y Wawr a Chlybiau Gwawr ynghyd i ddathlu fod y mudiad yn ddeugain oed eleni.
I ddathlu'r achlysur, cafwyd dau berfformiad o basiant, 'Rhialtwch y Rhuddem' yn Ysgol y Berwyn. Roedd pob rhanbarth yn cael ei gynrychioli, a thros 300 0 aelodau yn cymryd rhan dan gyfarwyddyd Mair Penri a Nan Lewis. Roedd y pasiant yn cychwyn yn 'y Dechrau', gyda Rhanbarth Meirionnydd, yn addas iawn, yn portreadu'r cyfarfod tyngedfennol hwnnw
yn y Parc.
Yna aethpwyd ymlaen i ddarlunio holl fwrlwm a gweithgaredd y mudiad o'r cychwyn hwnnw, at heddiw a llwyddiant y Clybiau Gwawr.
Cafwyd blas ar y cystadlu, y gwyliau rhanbarth, gwaith y mudiad hefo'r dysgwyr, noson lawen, yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r holl weithgareddau lleol sy'n cael eu cynnal drwy'r flwyddyn ledled Cymru.
Yn y prynhawn, aeth pawb i Gapel Tegid i fod yn rhan o Gymanfa Ganu'r
Dathlu, dan arweiniad Maureen Hughes, a recordiwyd ar gyfer rhifyn o
Dechrau Canu, Dechrau Canmol.
Casglwyd £1,600 tuag at Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith.
Cafwyd diwrnod hwyliog dros ben, yr awyrgylch yn braf ac roedd yno deimlad o falchder bod y mudiad yn parhau i weithio'n ddiflino i ddiogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. A chan fod y bygythiad i'n cymunedau yn fwy nag erioed, y gobaith ydi y bydd Merched y Wawr yn parhau i weithio am ddeugain mlynedd a mwy eto. Fel dywedodd Mary Price, llywydd cenedlaethol Merched y Wawr: "Mae'r diwrnod arbennig yma wedi ysbrydoli ein haelodau i gerdded ymlaen yn hyderus i'r dyfodol, gan gofio'r oll a gyflawnwyd dros y deugain mlynedd a aeth heibio." Hanes sefydlu Merched y Wawr yn y Parc
|