Y drwg efo'r fath silff ydi bod
rhaid rhoi rhywbeth arni hi.
Does yna fawr ddim byd mwy
llwm na silff hollol wag uwchben y
lle tan.
Ers talwm roedd yna bedair
silff ben tân yn y tŷ hwn - dwy i
lawr a dwy yn y llofftydd, a thipyn
go lew o ffigarins arnyn nhw.
Er
bod yr holl danau agored oedd
mor angenrheidiol gynt wedi hen
fynd, hwyrach, wrth i brisia tanwydd
godi bob dydd, y gwelwn ail agor y
gratiau a phawb yn gorfod hel coed
tan eto.
Rydach chi wedi casglu erbyn
hyn nad oes gen i drysorau teuluol
i'w harddangos ar yr unig silff
sydd ar ôl.
Sut bynnag am hynny, y
diwrnod o'r blaen mi dderbyniais
lythyr hynod o garedig drwy'r post.
Cloc
Dyma'r neges ynddo: petawn i'n prynu gwerth hyn-a-hyn o nwyddau o gatalog y cwmni, mi gawn i 'gloc mamplis' hardd am bris gostyngol, sef chwe phunt namyn ceiniog.
Twt lol, meddech chi, dydi 0 fawr o beth felly. Dyna feddyliais innau hefyd nes i mi weld y llun lliw o'r cloc porslen a'r daflen esboniadol. Mae blodau bach pinc a glas drosto i gyd a rhimyn o aur ar hyd ei ymylon.
Pwysleisir hefyd y byddai hwn yn gweddnewid fy nghartref cyffredin i fod yn un moethus. Ac, i goroni'r cyfan, dywedir fod y cloc mor ddrudfawr yr olwg fel y gweddai i'r dim i Balas Buckingham.
Ar fy ngwir! Wel dyna beth ydi taro deuddeg.
Wedi astudio'r llun a'r geiriau dethol, bu bron i mi ildio
i'r demtasiwn, yn enwedig o ddeall y cawn eistedd mewn steil yn gwylio'r bysedd cain yn symud ac yn gwrando ar y tician persain.
Doedd dim sôn fod morwyn yn dod yn rhan o'r fargen!
Ar ben hynny, mi fyddwn yn destun edmygedd a hyd
yn oed eiddigedd fy nheulu, fy ffrindiau a'm cymdogion oll.
Dringo
Hyd yn hyn, rydw i'n dal heb ildio. Prun bynnag, ni fyddai oes
y dywededig gloc meindlws ddim yn hir yn tÅ· ni. Heblaw y byddai'n
rhy rodresgar o'r hanner i'n cartref gwerinol, a gweriniaethol o ran hynny, byddai Huw Ifan, yr ŵyr dwyflwydd oed, wedi dringo mewn chwinciad ar ben y giard tân, ymestyn ei ddwylo amdano ac yna'i ollwng yn deilchion ar garreg yr aelwyd.
Eitha' gwaith a'i nain hefyd, ddyweda' i, am fod mor wirion yn ystyried prynu'r fath beth.
Byddai'n braf gallu dweud
bod darn o femrwn neu gwilsyn o eiddo Bedo Aeddren ar fy silff ben tân, oherwydd roedd o'n byw yma yn nechrau'r unfed ganrif
ar bymtheg ac yn dipyn o fardd.
Gwaetha'r modd, er nad oes dim byd o'r fath wedi goroesi, y mae rhai o'i gywyddau am serch a natur ar gof a chadw.
O'r diwedd dyma ni'n dod i'r presennol, i'r byd go iawn ac at y silff.
Esgid fechan
Wil biau'r ochr dde ac yn fanno mae llestr pren cul yn dal beiros.
Tu ôl i hwn mae ambell fil eisiau ei dalu a darnau blêr o bapur ac arnyn nhw linellau, cwpledi neu englynion heb eu gorffen.
Fi biau'r ochr chwith ac yn fanno mae cath bren wedi colli blaen ei chynffon yn dal nodiadau atgoffa yn eu lle er mwyn cadw rhyw fath o drefn arna' i.
Ar y canol mae tri pheth wedi eu gwneud o bres, sef tylluan, desgil i ddal dipiau papur a goriad y gwres canolog, ac esgid fechan hollol ddifudd sy'n dod a lwc dda yn ôl rhyw hen goel.
Weithiau caiff dwy fabwshca o Rwsia ddod am dro yno hefyd, na, nid dwy ond deg i fod yn fanwl, gan fod pump ym mhob dol a'r cyfan yn ffitio i'w gilydd yn daclus.
Does dim byd brolgar na bregus chwaith ynghylch y rhain. Maen nhw'n edrych yn ddigon cartrefol yno, a phlant bach, a phlant mawr o ran hynny hefyd, wrth eu bodd yn chwarae efo nhw. Alwena Williams