Enw'r gystadleuaeth ydy Feile Filiochta, Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol. Llongyfarchiadau mawr i Rhydian ar ei gamp yn ennill y wobr gyntaf a dyfarniad arbennig y Feile Filiochta am ei gerdd 'Ysgol'. Y gerdd fuddugol: Ysgol Rhifau fel defaid ar hyd y lle Adio a thynnu a dwn i ddim be' Symiau yn sgrechian, ffracsiynau'n un rhes, Degolion a chanran a phunnoedd a phres. Rhaid rhannu yn hir Does gen i ddim syniad Am faths deud y gwir. Brawddegau yn llifo ar bapur gwyn Cynghanedd yn clecian ac odlau yn dynn, Berfau yn dripian fel diferion d诺r, Ansoddair, rhagenw a threiglo si诺r. Atalnod yn fa'ma. Gofynnod fan draw? Idiomau fel cyrins, Mae'n iaith ar y naw. A dyna ichi flas ar fy niwrnod i Yn gaeth yn yr ysgol tan wedi tri. Cynhelir y gystadleuaeth dan nawdd Llyfrgell Dun Laoghaire, Dulyn, ac mae gwobr i gerddi Cymraeg a chwech arall i gerddi mewn chwe iaith Ewropeaidd arall. Y llynedd daeth y wobr gyntaf a'r ail i ddisgyblion o Ysgol y Berwyn ac fe gyhoeddwyd eu cerddi yn Pethe Penllyn.
|