Mae o'n sefyll yn fancw. Coesau'n gadarn ar led, breichiau allan, cefn syth a'i wyneb o .... mae'i wyneb o fel 'tase fo'n canolbwyntio'n anhygoel o ddwys ar yr wythdeg o gantorion o'i flaen o, pob un ar yr un adeg.'Ne chi ddeud yn syth bin sut ddyn ydy o 'de. Gorfod ca'l pethe'n hollol berffaith, 'ne do's ne'm pwrpas g'neud yn lle cynta. Maen' siŵr ma' dyne pam ei bod hi wedi cymryd pum, mlynedd i'n tŷ ni ga'l 'i adeiladu - achos 'i berffeithio di-ddiwedd o. Ma' hi 'run fath o hyd - pan 'dw i'n gofyn am help 'fo 'ngwaith cartref, 'se waeth i fi fod wedi cau 'ngheg ddim, achos yno fydd o wedyn yn addasu a newid a chywiro am orie. Fuodd o ar 'i draed dan hanner awr 'di un unwaith yn trio perffeithio ryw farddoniaeth o'n i 'di sgwennu. Lwcus fod mam yn ddi-fai, a ddim am gymryd dim o'i lol o! Ylwch! Mae o newydd roi taw ar y côr 'wan i newid pethe.
Nefi, mae o'n sefyll yn fancw, wedi'i swyno gan y gerddoriaeth rhwng y seti du diflas. Fyse'm, ots tase Clapto neu Hendrix yn dod ato fo rŵan i sgwrsio, 'dwi'n gwbod na fyse fo'n tynnu'i glustie oddi ar sŵn y môr o bobl mae o'n 'i nabod mor dda. Ma' rhai plant yn boddi mewn cywilydd pan ma' rhywun yn holi am chwaeth cerddoriaeth 'u rhieni nhw. Fel arall 'dw i - pw'sa'n cywilyddio, pan ma' 'i hen grŵp o wedi chwara' mewn cyngerdd hefo Max Boyce. Da ni'n dau'n dallt ein gilydd, hanner-hanner fydd hi am CDs o hyd. Pan a'th o ni ar ryw gwis radio o' blaen - 'Nabod y teulu', debyg i 'Sion a Sian', dyma ofyn cwestiwn iddo fo, "Pa un o'r grwpiau yma fyddai Branwen yn debyg o wrando arno? (a) Anweledig (b) Big Leaves neu (c) Cic?" Mi ddechreuodd olwynion 'i feddwl o droi fel dail mewn gwynt, a mi dd'udodd y diawl, "Cic!" mae o'n gwbod mod i'n 'u casau nhw! Codi cywilydd arna' i o flaen y genedl gyfa'! Diawledig! Ond mi ges i o 'nôl, o do! Pan ddaeth hi'n amser i fi glywed 'i atebion o dyma fi'n deud "Cic? Ond ti sy'n licio 'heini, dim fi! Ti'n gwbod, y grŵp wyt ti'n dawnsio efo nhw o flaen y teledu. Ond dy fo ti'n cau'r llenni rhag i neb weld!" Smalio o'n i, ond bron i fi gal cic - lwcus ma'r soffa ga'th hi, ddim fi! Mae o hyd yn oed 'di mynd mor bell â g'neud ffrinde 'fo bois y grŵp 'Anhygoel'! Ella ei fod o'n edrych fel oedolyn, ond boi ifanc ydio'n y bôn - credwch chi fi! 'Tase chi yn tŷ ni pan ma'i hen ffrindie coleg o draw, mae ei chwerthin stiwdantaidd nhw'n llenwi'r tŷ. 'Dw i'n cuddio wrth glywed rhai hanesion a glana chwerthin dro arall. Dd'udodd Al wrtha' i bo' nhw unwaith wedi tynnu popeth o 'stafell y genod drws nesa' ond 'i bod nhw wedi cyrraedd yn ôl i weld 'u gwlâu nhw yn sownd yn y ffenest! Ond do'dda nhw ddim yn flin medda Al, achos 'i bod nhw wedi rhoi tair potel ar ddeg o win iddyn nhw fel anrheg ymddiheuro! Ma' tair ar ddeg yn swnio'n lot, ond ddim i fois o'dd gan fragdy eu hunain yn seleri anferth yr hen dŷ lojings!
Na, 'tase Tich Gwilym yn dechre strymio yn un gornel a Meic Stevens yn y llall, fydde fo'n poeni 'run taten, achos ma'r gerddoriaeth yma'n wahanol. 'I gerddoriaeth o ydy hwn.
Mae o'n neidio 'lawr y grisie rŵan, yn mynd yn agosach at gynhyrchwyr y sain syfrdanol, yn clicio'i fysedd, tapio'i ben ac yn gwenu fel plentyn yn ca'l i gosi. Y jîns deng-mlynedd-rhy-fach a'r crys-T pa-liw-o'n-i-gychwyn yn union fel ail groen iddo fo. Ma' mam yn d'eud 'i bo' hi'n cofio'r dillad yn newydd ond alla' i'm dychmygu hynny! Alla i chwaith ddim dychmygu mam a fo yn y dyddie cyn i fi ga'l y 'ngeni. Ma' 'na giosg yn Llangynog lle'r o'dd o'n ffonio mam 'stalwm (i ddeud 'i fod o'n hwyr i'w chyfarfod hi fel arfar medda hi) ond uchelgais gwirion y ddau ydy prynu'r ciosg penodol 'ma - gwallgo! Rhoswch, mae o 'di stopio pethe eto. Y gole sy'n ca'l i newid 'tro'ma y spot light ar y prif leisydd ddim digon llachar. Peth od, achos fel 'ne ma hi 'di bod erioed - Fo'n ffi'ndio seren newydd, 'u polisho nhw a'u meithrin nhw. Gwthio donie pobl er'ill i'r golau, heb feddwl ma' fo sydd yn y 'spot light' gan bobl, go iawn.
Ma'r côr bron a gorffen y gân rŵan ac yn cloi 'fo harmoni anfarwol o felodi a hapusrwydd. Ma'i foche fo'n sefyll reit allan o achos ei wên anferthol, a 'dw i'n gallu teimlo'r gic mae o'n ei ga'l yn llenwi'i gorff main o, yn cropian i fyny'i asgwrn cefn o ac yn g'neud iddo fo deimlo fel y dyn mwya lwcus erioed.
"Ma' gin ti'r hen gic 'na'n dy lais 'byth Ger 'rhen gô! Mi odda chi'n arbennig! Hollol arbennig! Taswn i'n gw'bod fod y band yn mynd i 'neud i chwi swnio mor dda, fyswn i 'di dwad â nhw atoch fisoedd yn ôl! Asgob, ddylswn i fod wedi archebu'r theatr 'ma am fis - mi fedra' i garantïo chi fydd y lle'n llawn dop! Cerwch i ga'l 'wbath i'w fwyta reit handi, 'da chi'n 'i haeddu fo wir!"
Yr hen 'Acan Gwlad y Medra' 'ma! Fedra i'm deud 'y mod i wedi'i hosgoi hi chwaith. Cofio pan o'n i'n beth bach, yn mynd i'r ysgol feithrin am 'tro cyntaf, dyma fi'n ca'l y nhormentio yn y modd mwya' am ddeud 'amsar llefrith' tra fod pawb arall yn d'eud 'amser llaeth' - 'i ddylanwad O oedd hyna siwr iawn!
Mi fedra' i dal 'i weld o'n mynd ar draws cefn y llwyfan yn curo cefn hwn a rwbio gwallt un arall, yn mwmian y gân yn dawel, allan o diwn. Yndi mae'r boi yn 'tone-deaf' - ond w chi be, dwi'n meddwl fod i gariad o at gerddoriaeth wedi gallu g'neud iddo fo oroesi hyna, a dal ati i wneud yr hyn mae o'n caru i 'neud. 'Dwi'n gwbod am lawer fyse heb allu g'neud hyna. Ma'r wefr sy'n llifo o'i wyneb o'n dangos i'r byd cyfa', wedi blwyddyn o noswethiau hwyr, rhegi di-ddiwedd, tunelli o bapur yn ca'l eu malu a'u rhwygo ac oriau o flaen y cyfrifiadur, wedi misoedd o weiddi a sgrechian a ffraeo, dydi o'n malio 'run botwm corn na poeni dim am ddim yn y byd mawr crwn, achos mae o wedi ca'l be' mae o 'isio - mae'r sioe newydd yn barod.
Ac wrth i fi wylio fo'n loncian ar draws y llwyfan, fedra i'm peidio teimlo mor falch o Dad.
Portread buddugol gan Branwen Haf Williams, Llanuwchllyn