Ym 1997 dechreuwyd arbrawf yn y Coleg pan cynhaliwyd y cyrsiau Pasg cyntaf i ysgolion cynradd.
Tair ysgol leol ddewr fentrodd i'r Coleg y flwyddyn honno, a llawer yw'r diolch iddynt am eu cefnogaeth.
0 dipyn i beth daeth mwy a mwy o ysgolion acw o flwyddyn i flwyddyn, a'r ysgolion lleol unwaith eto yn hynod gefnogol, ond bellach ambell i ysgol yn teithio cryn bellter i ddod ar y cwrs.
Erbyn llynedd roedd pob un o'r 16 diwrnod a glustnodwyd ar gyfer y cyrsiau wedi eu llenwi, a bu'n rhaid trefnu 3 diwrnod ychwanegol ar ôl y Pasg. Bu dros 650 0 blant yn clywed Hanes y Pasg i gyd.
Yn ystod y dydd byddwn yn cyfleu'r stori drwy olygfeydd o'r hanes, gan ddefnyddio'r Coleg fel 'set' o Jeriwsalem.
Bydd ambell gymeriad yn ymuno a ni i helpu i ddweud yr hanes; yn y .. gorffennol bu perchennog yr Oruwch Ystafell yn rhannu ei brofiadau yn ogystal a Malchus, y gwas oedd yng Ngardd Gethsemane.
Mae'r gwahoddiadau yn mynd allan i'r ysgolion am eleni ar hyn o bryd, a'r dyddiau'n dechrau llenwi'n barod.
Felly, pan fyddwch yn gweld ambell i fws yn aros wrth y Coleg o ganol Mawrth hyd ddechrau Ebrill, fe fydd gennych ryw syniad beth fydd yn digwydd acw.
Nia W.Williams
|