Llwyddodd dau d卯m o'r ardal i ennill yr hawl i gynrychioli Gogledd Cymru yn y Stadiwm wedi diwrnod o gystadlu brwd ym Mae Colwyn. Daeth y t卯m dan 13eg a'r t卯m dan 19 yn ail yn y gystadleuaeth honno ac felly roedd hen edrych ymlaen at gael chwarae yn y Stadiwm Cenedlaethol. Rygbi saith bob ochr oedd y g锚m, ond nid oedd gan y merched hawl i daclo fer arfer. Roedd rhaid i'r rhai ieuengaf dynnu tagiau arbennig oddi ar eu gwrthwynebwyr i'w stopio, tra roedd cyffyrddiad yn cyfrif fel tacl i'r rhai hynaf. Gwnaeth y ddau d卯m gyfrif da iawn ohonynt eu hunain, y t卯m ieuengaf yn arbennig felly gan iddynt lwyddo i gyrraedd y rownd gyn-derfynol a rhoi g锚m galed iawn i d卯m Ysgol Syr Huw Owen yn y rownd honno. Bu'n rhaid cael amser ychwanegol a'r cais euraidd' aeth 芒 hi. Daeth Steve Hansen, rheolwr Cymru, i longyfarch y timau buddugol ac roedd cyfle i bawb gael ei lofnod hefyd. Llongyfarchiadau i bawb fu ar y daith. Yn sicr bydd yn rhywbeth i'w ddweud wrth eich wyrion a'ch gor-wyrion!
|