Cyflwynodd Clwb Golff y Bala siec o £1,500 i Gronfa
Apel leol Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2009 a
gynhelir yn Y Bala.
Casglwyd y rhan fwyaf o'r arian drwy
gynnal cystadleuaeth golff yn ystod wythnos cyhoeddi'r
Eisteddfod eleni.
Yn y llun (o'r chwith i'r dde): Elsbeth Jones, Capten y Merched; Gwyneth Parry, Cadeirydd Cyngor y Clwb Golff; Dr I. B. Williams, Cadeirydd Pwyllgor Apel Y Bala; a Mark Wood, Capten y Dynion 2008-09.