成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
hen lun o'r hogia O Ben Moel Llan
Hydref 2008
Dyma ni yn niwedd Awst a'r tywydd wedi bod yn ddigalon, a gwyliau'r plant o'r ysgol wedi bod yn law bob dydd bron.

Gan Ron Lloyd

Mae pawb yn s么n y daw hi'n braf unwaith aiff y plant yn 么l i'r ysgol.

Dyde ni ddim wedi bod yn rhai am fynd ar wyliau yn bell iawn ond mi aethom ni i'r Friog un haf tua pedwardeg mlynedd yn 么l erbyn hyn ac yno cyfarfod a'r dyn oedd yn byw drws nesaf i'm mrawd yng nghyfraith, a fo glywais i'n s么n am 'Lanw Coch Awst', a'i syniad o oedd y byddai'r tywydd yn siwr o wella ar 么l y llanw hwnnw.

Tybed a oes gan rhywun syniad pryd mae'r llanw hwnnw'n digwydd?

Sioe Sir

Ta waeth am hynny mae yna brysurdeb mawr at y Sioe Sir yma unwaith eto; ac mae s么n y bydd hi yma eto flwyddyn nesaf a'r Steddfod hefyd.

Dydy Lanfor yn lle pwysig - doedd fawr o ryfedd iddo gael ei alw yn Llanfawr gan ein cyndadau, roedd y rheini yn gweld o bell y dydd yn dod!

Ta waeth am chwythu fy nghorn am y prif bentref, mae rhai yn cymysgu am eu hardal yn achos efail Penrhiwdwrch.

Does ond tafliad carreg o'r Werddon i fan honno. (Werddon Llanuwchllyn ac nid yr Ynys Werdd sy gen i).

Roedd yno groeso arbennig i'r Postmon yn Y Werddon, paned ac 诺y wedi ei ferwi, a'r rheini'n free-range.

Ond gresyn na fase Penri wedi gwrando mwy ar y seiade difyr a gaem yno.

Mae'n si诺r fod ei dad wedi bod wrth ryw orchwyl ym Mhenrhiwdwrch.

Roedd o yn meddwl mai Efail Penrhiwdwrch oedd y llun yn Arddangosfa H.W Lloyd yn y Capel Bach. Efail Llanfor oedd hi! Gallwn weld wal y fynwent.

Cefais air gan Miss Roberts, Pantsaer (Madge Pantsaer) a Gwen y Bryn (Mrs Roberts Foleufan), hwythau'n cadarnhau fy nhybiaeth, ac roedd John Tynant, neu John Bach, neu John y Postman, yn bendant mai gefail Llanfor oedd yn y llun.

Dyma lun o Efail Llanfor tua 1890 sydd yn cel ei farchnata gan Archifdy Dolgellau ac mae'n debyg mai Huw Edwards y Gof sydd y tu allan ac mai ceffyl y Rhiwlas a'r wagnar yn ei het galed sydd ynddo fo.

Llongyfarchiadau

A gadael miri Penrhiwdwrch ar 么l, rhaid llongyfarch pawb a enillodd yn y Brifwyl yng Nghaerdydd, ac yn enwedig Mair Penri ar ennill Medal Syr T.H. Parry Williams.

Llongyfarchiadau, Mair, oddi wrth bawb sy'n darllen y golofn yma.

Oes, mae gen i le i ddiolch, fel dywedodd Mair am Penri, "Dydi o ddim yn cwyno!"

Mae hi 'run fath yma pan fydda i yn trio rhoi'r llith yma at ei gilydd - Catherine sydd yn gorfod clirio ar fy 么l!

Cyn inni adael s诺n yn eingion dyma ichwi lun o blant y Llan yn eistedd ar yr Haearn Cylchu tu allan i'r Efail yma.

Roedd o'n troi rownd a doedd dim rhaid aros tan y Ffair yn y Green i gael 'Merry-go- Round'.

Ond gresyn bod y pedwar hogyn wedi ein gadael bellach. (Yn sefyll y tu 么l mae Tom Tymawr, a fu'n Garcharor Rhyfel yn yr Almaen am bum mlynedd. Ar y chwith mae John Penucha, yn y canol Arthur Penucha, ac ar y dde, Gwyn Smithies.

le, roedd y Peiriant Cylchu yn fan cyfarfod i blant y Llan dros genedlaethau a diolch i Gwyneth Penucha am gael menthyg y llun.

Flying saucers

Mae'n debyg pan ddarllenwch y darn nesaf y byddwch yn si诺r o ddweud fy mod yn dechre ffwndro.

Byddaf yn meddwl hynny amdanaf fy hun weithiau, 'n enwedig pan fydd y plant yma yn dweud fy mod yn ailadrodd pethau; ond y dydd o'r blaen mi es i a Catherine i edrych am gyfnither yng Nghraig y Fron, y Bala.

Pwy ydy honno, meddwch chi - wel y Mair y cyfeirir ati yn y cwpl Eric a Mair Evans oedd yn cadw siop Bradford House, yn gwerthu setiau teledu, ac offer trydanol o bob math.

Roeddem yn eistedd yn eu hystafell haul ac yn edrych ar yr olygfa fendigedig o dref y Bala.

Fel roedd hi yn nosi a goleuadau'r strydoedd yn taslo drwy'r ffenestri gwydr dyma fi'n codi'n sydyn.

"Be sydd arnta ti?" medde Mair. "Flying saucers," medde finne, a dyne lle roedd y goleuadau i'w gweld yn symud fel roeddwn i'n symud a'u gweld ar y gorwel tros y Wenallt a T欧 Mawr, Rhosygwalia, a'u si芒p fel dysglau a'u lliw fel oren o liw y lampau.

I mi dyma'r ateb i'r 'flying- saucers' sydd wedi bod yn ymddangos ar y teledu a phapurau dyddiol.

Tybed a oes unrhyw un arall o'r un feddwl? le, dydw i ddim yn ffwndro y tro 'ma, a dim s么n am ddynion bach 'chwaith!

Ron Lloyd


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy