Cyhoeddwyd yn ystod yr wythnos diwethaf enwau wyth o bobl ifanc sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau iddynt allu parhau i astudio yn eu maes cerddorol arbennig eu hunain tu hwnt i'r cyrsiau gradd y maent eisoes wedi, neu ar fin, eu cwblhau.
Yn yr wyth mae dau ffidlwr, un delynores, un tenor, un mezzosoprano, ac ymhlith y tair arall - sopranos - mae Glesni Fflur.
Deallwn y bydd yr ysgoloriaeth yma yn werth £4,500 i Glesni.
Teitl yr Ysgoloriaethau hyn yw 'Gwobrau Tywysog Cymru at Astudiaethau Uwch mewn Cerddoriaeth' a bydd yr wyth yn perfformio, gyda'i gilydd cyn hir, ym mhresenoldeb y Tywysog yng Nghastell Caerdydd pan gynhelir cinio i ddathlu Sesiwn newydd y Cynulliad.
Dyma'r tro cyntaf i'r ysgoloriaethau hyn gael eu cynnig. Cyfrannodd Cyngor Celfyddydau Cymru bunt am bunt at arian y Tywysog. Dywedodd yr Athro Dai Smith, Cadeirydd CCC fod y gwobrau yn mynd i sicrhau na chollir y talentau cerddorol gorau ond yn hytrach eu datblygu i'r eithaf.
|