Daeth dros drigain o gyn-ddisgyblion ynghyd i fwyty Plas-yn-Dre, ac er i amryw gyfaddef eu bod yn teimlo'n ddigon nerfus cyn dod allan (yn ofni na
fyddent yn cofio pawb, neu na fyddai neb yn eu cofio nhw!), wedi
cyrraedd buan yr ymlaciodd pawb a dechrau mwynhau'r achlysur.
Bu hen siarad, rhannu atgofion a dysgu o'r newydd am brofiadau'r
naill a'r llall ers gadael yr ysgol. Roedd nifer o'r criw yn dal i fyw yn
ardaloedd Y Bala a Chorwen, ond eraill wedi teithio o rannau eraill
o ogledd, canolbarth a de Cymru, yn ogystal ag o Loegr
a thu hwnt. Ymhlith y rhai a ddaeth o bell yr oedd James
Cameron, Robin Gough ac Edwina Jones (o Lundain a
de-ddwyrain Lloegr), Richard Lloyd Jones (o ardal Leeds),
Emma Iller (o Ynys Lewis yn Yr Alban) a Tania Llewelyn
Jones (o Dubai!!).
Hoffem ddiolch o galon i reolwyr a staff Plas-yn-Dre am y
wledd a baratowyd ar ein cyfer ac am weini arnom drwy
gydol y noson. Ein diolch hefyd i Dilwyn Llwyd, cyn-
ddisgybl a gychwynnodd yn yr ysgol ddwy flynedd o flaen
criw'r aduniad, am ddarparu cerddoriaeth i ni, a hynny
mor llwyddiannus nes ysgogi llawer i fynd ati i ddawnsio!
Gobeithio y gellir cynnal noson arall debyg yn y dyfodol.
|