Ar y Nos Wener yr oedd Cyngerdd Cerddorfaol yn cael ei recordio gan y 成人论坛 ac fe'i darlledwyd ar y nos Sul canlynol. Cyngerdd arbennig am fod darn hollol newydd o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y 成人论坛, ys dywedai y "Radio Times" a phapurau eraill "World Premiere". Y cyfansoddwr oedd Guto Puw, mab Dan a Lona Puw, Styllen gynt. Ysbrydolwyd y darn gan gerdd gan R.S. Thomas o dan y testun "Reservoirs" ac o glywed y darn yr oedd hi'n anodd cadw boddi cwm Tryweryn o'r cof.
Cafwyd derbyniad gwresog i'r darn gan y gynulleidfa a'r Gerddorfa ac fe alwyd ac ail-alw Guto i'r llwyfan i dderbyn gwrogaeth haeddiannol. Da iawn yn wir.
Yn yr un Cyngerdd yr oedd cantorion Cymreig y 成人论坛 yn canu, c么r cymysg sylweddol ei faint ac yn fyd-enwog am ei allu i gyflwyno cerddoriaeth leisiol o bob math. Un o'r c么r yw Nia Mair Jones, Telos, Y Bala, merch hynaf Gareth a Gill Jones. Gwyddom am ddawn gerddorol y teulu yma a llongyfarchwn Nia am ennill ei lle yn y c么r.
Beth amser yn 么l yr oedd Nia yn canu yn y c么r hefyd ond wedyn bu yn byw a gweithio ym Marcelona, Sbaen. Bellach, yn 么l yng Nghaerdydd mae wedi ail-afael ac eisoes wedi teithio i Toulouse, Ffrainc, efo'r c么r i ganu Breuddwyd Gerontius gyda cherddorfa "National du Capitol" dan arweiniad Richard Hickox.
Mae Nia hefyd yn aelod o gr诺p "Vivace", deuddeg o ferched a gynrychiolodd Prydain yng Ng诺yl Gorawl De America yn Ninas Mexico dros y Pasg.
Ar y bore Sadwrn, yr oedd y Cyngerdd wedi ei anghofio a seremoni wahanol yn cymryd lle. Un o gyfres o seremon茂au graddio'r Brifysgol Agored.
Dyma'r Brifysgol di-safle, di-goleg, sy'n galluogi myfyrwyr i ail-afael yn eu hastudiaethau ar 么l dechrau gweithio neu hyd yn oed ar 么l ymddeol, a hynny trwy weithio yn eu cartrefi, gwylio rhaglenni fideo wedi'u paratoi yn arbennig ar eu cyfer, mynychu ysgol breswyl am ryw wythnos ar y tro, ac ysgrifennu traethodau a'u postio i diwtoriaid o ddarlithwyr.
Yno i dderbyn gradd BSc, gydag anrhydedd, yr oedd Ifor Alun Richards, Pemblemere, Heol Arenig , Y Bala. Mae Ifor yn fab i Vera a'r diweddar Meiron John Richards, 93 Stryd Fawr, ac wedi ymlafnio am y chwe mlynedd diwethaf ym maes Daearyddiaeth ac Astudiaethau'r Amgylchfyd.
Ar yr un pryd bu'n dilyn ei waith fel aelod o staff Banc Natwest, yn Gynghorydd, yn Faer y Bala am ddwy flynedd, ac yn weithgar yn ei gapel, gyda Chymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Tegid ac amryw gymdeithasau eraill. Llongyfarchiadau mawr.