Mae'n delyn fach goch o wneuthuriad Salvi a bydd at ddefnydd holl ddisgyblion yr ysgol. Bydd yn adnodd werthfawr ar gyfer gwersi cerdd yn yr ysgol. Cyflwynwyd y delyn gan bwyllgor Ymddiriedolaeth y Delyn yn Llanuwchllyn a chefnogaeth nifer o gymdeithasau a chorau lleol, er cof am gyfraniad Elin Mair Jones i weithgareddau'r ardal. Fe gofir am barodrwydd Elin i gyfeilio ar y delyn i bartïon cerdd dant yr ysgol. Roedd yn ddiflino wrth gynorthwyo mewn ymarferion gydag unigolion oedd am gystadlu yn ngweithgareddau'r Urdd. Yn ogystal â hyn cludodd ei thelyn ei hun, ar draws gwlad i eisteddfodau lu, er mwyn cynorthwyo'r dawnswyr gwerin yn yr ysgol. Bu'n frwdfrydig, ffyddlon a chefnogol iawn i ddisgyblion Llanuwchllyn am flynyddoedd lawer cyn ei marwolaeth ddisymwth. "Telyn cŵl er cof am berson cŵl," oedd geiriau Lisabeth Puw (Cadeirydd Pwyllgor Ymddiriedolaeth y Delyn) wrth ei chyflwyno. Mae staff a disgyblion yr ysgol yn ddiolchgar tu hwnt am yr anrheg hon, a gobeithir y bydd llawer o ddisgyblion yn manteisio ar gyfle o gael gwersi telyn yn y dyfodol.
|