"Cardiau Nadolig" oedd sioe y Babanod - pob carden a'i llun a'i hanesyn ei hun am y cyfnod. Roedd y plant i gyd wrthi'n brysur yn postio'u cardiau ac yn rhoi llond sach o waith i Jac y Postman - y prif gymeriad. "Hen Ddyn Doeth y Lleuad" oedd sioe yr Adran Iau. Roedd yr hen ddyn yn methu deall beth oedd yr holl halibal诺 oedd ar y ddaear ar yr adeg yma, ac y mae'n penderfynu bod yn rhaid iddo ddod lawr ar seren wib i weld drosto ef ei hun. Yn ystod y perfformiad gwelwyd bod sawl seren ddisglair yn perfformio ar y llwyfan. Gwnaeth y plant ddau berfformiad, un brynhawn Mawrth ac un nos Fercher, ac roedd y Neuadd yn llawn i'r ddau berfformiad. Bu'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn brysur yn gwerthu tocynnau raffi a chasglwyd swm sylweddol o arian i gronfa'r ysgol. Rhaid diolch i'r rhieni hynny fu'n ddiwyd yn paratoi'r holl wisgoedd, ond rhaid rhoi diolch yn arbennig i Mrs Enfys Williams a Mrs Sally Phillips.
|