Mae'n draddodiad gan fowlwyr Ceredigion fynd am wythnos o chwarae a seibiant bob blwyddyn i wahanol ardaloedd ym Mhrydain ac Iwerddon. Dros y blynyddoedd, cafwyd llawer taith ddiddorol a chofiadwy. Eleni, Dyfnaint, yn Ne Orllewin Lloegr, oedd y dewis, ac ar fore 11eg Mehefin, dyma 33 o ddynion o'r naw clwb bowlio yng Ngheredigion (Aberteifi, Castell Newydd Emlyn, Llandysul, Cei Newydd, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Tregaron, Aberystwyth a'r Morfa) yn canu'n iach i Gymru a bwrw dros y Bont i wlad y Saeson.
Wrth reswm, gan fod llawer o'r dynion wedi gweld eu hamser gorau, rhaid aros ar 么l rhyw ddwy awr o deithio i ateb galwadau natur. Rheswm arall, ac efallai y prif reswm, oedd fod John Evans (Cei Newydd) wedi gwneud yn si诺r fod ei 诺yr bach newydd yn cael ei gyflwyno i'r gr诺p i gyd yng Nghaerdydd. Ar 么l i bawb yn ei dro gael yr anrhydedd o oglys traed y babi a dweud ei fod yn spit image o'i dadcu, off 芒 ni ac ymhen rhyw ddwy awr, dyma ni yn cyrraedd ein gwesty ar lan y m么r yn Exmouth.
Dim j么c yw cadw 33 o ddynion canol oed (grumpy old men) yn hapus a chadw rhyw fesur o ddisgyblaeth arnynt. (Mae pawb yn gwybod fod dynion o ryw oedran yn achosi mwy o broblemau nag unrhyw ddosbarth o fechgyn ysgol). Mae'n bwysig, felly, cael arweinydd a thipyn o gymeriad, iawn gennym.
Bydd Dai James o ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr y Gambo. Un o fois Ffostrasol yw Dai; ganwyd ef yn Blaenbwch a symudodd y teulu i bentre Ffostrasol pan oedd Dai yn saith mlwydd oed. Mae'n gyn ddisgybl o Ysgol Gynradd Capel Cynon ac Ysgol Ramadeg Llandysul. Roedd ef a' i chwaer Margaret a'r teulu oll yn boblogaidd iawn yn Ffostrasol. Ers blynyddoedd bellach, mae wedi ymgartrefi yn Aberystwyth, yn 诺r teulu, a chanddo swydd gyfrifol ym myd addysg.
Cafodd Dai James yr anrhydedd eleni o ddal tair swydd bwysig ym myd bowlio yng Ngheredigion. Yn gyntaf, ei gyfrifoldeb ef oedd gwneud holl drefniadau y daith. Nid peth hawdd yw hyn, ac mae'n glod iddo fod dim mas o le wedi digwydd ac fod popeth wedi mynd fel watch. Yn ail, cafodd ei ddewis gan ei glwb, Clwb Bowlio Aberystwyth, i fod yn Lywydd Cymdeithas Bowlio Dynion Sir Ceredigion yn 2005 ac mae wedi llanw'r swydd gydag urddas naturiol.
Yn olaf, ac efallai mwyaf pwysig, cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Cymdeithas Bowlio Dynion Ceredigion ar 么l marwolaeth Vic Hubbard, Aberaeron, rai blynyddoedd yn 么l. Nid gwaith hawdd oedd dilyn dyn o statws ac enwogrwydd Vic Hubbard, ond erbyn hyn mae'r newid wedi cymeryd lle yn esmwyth a diffwdan.
Llongyfarchiadau i un o fois chwech g锚m a chwaraewyd yn ystod yr wythnos yn erbyn Exeter, Sidmouth, Topsham, Budleigh Salterton, Exmouth a Sir Dyfnaint. Enillwyd pedair a cholli dwy a scorio 823 yn erbyn 633. Rwy'n deall wrth y bois sy'n gwybod mai dyma'r canlyniadau mwyaf llwyddiannus ers peth amser.
Wrth gwrs, mae na flaenoriaethau eraill ar daith fel hyn ar wahan i chwarae bowls. Mae pob Sais yn cymeryd yn ganiatol fod pob Cymro yn medru canu, ac felly bron bob nos yn y gwesty neu yn y clwb bu rhaid ffurfio c么r a chanu'r hen ganiadau. Diolch i John Price, Ceinewydd, am ein harwain mor feistrolgar ac am ein disgyblu mor ddeallus. Diolch hefyd i un neu ddau unawdydd arall ac i dri neu bedwar diddanwr talentog am ein hysbrydoli ac am ein cadw i chwerthin. Roedd llawer o hyd a lled Exmouth yn tyrru i'n gwesty yn gyson i glywed 'Calon Lan'.
Un peth i orffen. Roedd gennym yrrwr bws penigamp. Medrai Wyndham fanwfro'i fws enfawr i gorneli ac i fannau na fentrwn i yrru'r Focus. Mae Wyndham wedi gyrru ar y teithiau hyn am ddeng mlynedd ac mae pawb yn fawr obeithio y ddaw eto flwyddyn nesaf.
A s么n am flwyddyn nesaf- lle hollol wahanol - Great Yarmouth - ynghanol y Fens' yn nwyrain Lloegr. Rhaid dysgu rhwyfo!
Diolch i Terry Michel am ddarlun arbennig.