Tybed a fuoch chi fel fi, yn 么l yn yr haf, yn gwylio'r Gemau Olympaidd ar y teledu ac yn meddwl byddai'n braf gweld rhywun lleol yn cymryd rhan, dim ots ar ba gamp, rhywun o'r filltir sgwar yma. Wel, falle yn y dyfodol mi gawn ni ... Bachgen pedair ar ddeg oed yw Lloyd Bettinson, Glascoed Bach, Rhydlewis, sydd 芒'i fryd ar gystadlu dros ei wlad a'i uchelgais yw cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd. Pa gamp? Neidio ceffylau yw ei fryd, a hynny ers iddo fod yn fachgen bach chwech oed pan ddechreuodd Lloyd ddysgu marchogaeth. Mi ddechreuodd gystadlu pan oedd yn wyth oed, mewn cystadlaethau lleol ond erbyn hyn mae yn cystadlu ar draws pob rhan o Brydain, ac yn ddiweddar bu yn yr Alban yn cystadlu. Mae diwrnod Lloyd yn dechrau tua hanner awr wedi chwech, sydd yn gynnar iawn i lawer o blant ond mae Lloyd yn gorfod bwydo a glanhau'r ceffylau cyn mynd i'r ysgol. Mae Lloyd yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi er bod ei fam a'i dad yn ddi-Gymraeg; mae Lloyd yn Gymro gl芒n. Ar 么l y gwaith ysgol mae'r gwaith ymarfer yn dechrau, ymarfer y ddau geffyl bob dydd, ar y iard pwrpasol sydd wedi ei darparu yn arbennig gan dywod. Yna brwsio'r ceffylau, glanhau'r offer ac ati. Rhan amlaf mae Lloyd yn cystadlu gyda dau geffyl, un 14.2 dyrnfedd o uchder a brynwyd yn yr Iwerddon a'r llall sydd yn 16 dyrnfedd; ar gefn hwn mae Lloyd yn cystadlu yn erbyn y 'seniors'. Mae e eisoes wedi bod yn rhan o d卯m ieuenctid Cymru, ac fe enillodd fedal efydd. Hefyd mae wedi cystadlu yn sioe fawr Hickstead ond ei uchelgais fawr yw'r Gemau Olympaidd yn 2012 ac hefyd i gystadlu yn yr Horse of the Year Show' yn Llundain. Mae Lloyd yn lwcus o'r gefnogaeth mae'n cael gan ei fam a'i dad ac maent yn rhoi llawer o ymdrech i mewn i gludo'r ceffylau dros bob rhan o'r wlad i gystadlu ac hynny ambell waith dair gwaith yr wythnos yn ystod yr haf. Uchelgais Lloyd fel gyrfa? Bod yn neidiwr ceffylau proffesiynol neu o leia bridio a magu ceffylau ar gyfer y gamp. Ody, mae Lloyd 芒'i lygaid ar yrfa fel ei arwr Michael Whitaker, a pwy a 诺yr efallai yn y gemau 2012 fe fyddwn yn cefnogi campwr o'n filltir fach ni! Pob lwc a llwyddiant iddo. Huw Jones, Seilach
|