Ar ddiwedd y ddwy sesiwn, daeth Caerwedros i'r brig gyda 97 o bwyntiau. Dyma'r ail waith yn olynol iddynt ennill a'r pinacl oedd ennill y c么r!
Dyma ganlyniadau Caerwedros:
laf- C么r; Parti Deulais; Ensemble Lleisiol; Parti Llefaru; Lowri Evans - Unawd 26 neu iau; Lowri Jones - Adroddiad Digri; Teleri Evans - Ysgrifennu Monolog; Cywaith Clwb - DVD Asiantaeth Garu.
2ail - Lona Harris - Unawd 13 neu iau; Carwyn a Heledd -- Deuawd; Lowri, Bethan a Gareth - Triawd Cerdd Dant; Bethan a Carys - Deuawd Doniol; Gethin Morgan -
Ysgrifennu Cerdd; Lowri Jones - Ysgrifennu Sgwrs Negeseuon Testun.
3ydd - Bethan a Gareth - Cyflwyniad Theatrig; Lea Jones - Brawddeg.
Llongyfarchiadau mawr i bawb am wneud mor dda!
Ar y nos Lun wedyn, cafwyd parti Calan Gaeaf i'r aelodau gael hwyl ac ymlacio. Cafwyd noson hwylus o g锚mau ac ar Dachwedd 7fed, cawsom noson o `Gladiators'. Ar ddiwedd yr wythnos yma, gwelwyd 3 o'r aelodau, sef Trystan, Gwawr ac Erin, yn perfformio ar lwyfan ysgol Aberaeron yn eu perfformiad o'r sioe Gr卯s, a chafwyd sioe o safon uchel iawn.
Bu dwy aelod yn ceisio am daith ryngwladol ar ddydd Sul, Tachwedd 13eg ac yn dilyn y cyfweliadau, fe sicrhaodd Lea Jones drip i'r Alban ym Mehefin a Lowri Jones ymweliad ag Ulster fis Ebrill nesaf. Llongyfarchiadau mawr i chi!
Y noson wedyn, cynhaliwyd cyngerdd yn y neuadd a braf oedd gweld cymaint wedi troi allan i fwynhau gwledd o dalentau lleol. Croesawyd pawb i'r cyngerdd gan Lea Jones y Cadeirydd ac fe fu Llywydd y Clwb, Emyr Jones yn ein tywys drwy eitemau'r Eisteddfod am weddill y noson. Braf oedd cael y cyfle i ddangos ffrwyth yr holl ymarfer i bobl leol.
Eisteddfod Cymru
Daeth diwrnod Eisteddfod C.Ff.I. Cymru ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 19eg ac roedd clwb Caerwedros yn cystadlu mewn 5 cystadleuaeth lwyfan. Roedd 2 fws yn llawn o aelodau, rhieni a ffrindiau yn dechrau o sgw芒r Synod am 9 o'r gloch y bore, gyda dyn camera o gwmni teledu 'Telesgop' yn ffilmio'r daith!
Bu Lowri Evans yn cystadlu yn yr unawd dan 26 a daeth yn ail. Cafodd Lowri Jones yr ail wobr yn yr adrodd digri a daeth yr ensemble yn gydradd drydydd. Yn y cystadlaethau gwaith cartref, fe enillodd y cywaith clwb - sef DVD yn hysbysebu'r clwb fel asiantaeth garu, a daeth Teleri Evans yn gydradd drydydd yn ysgrifennu monolog.
Ond uchafbwynt yr Eisteddfod oedd ennill cystadleuaeth y c么r ar ddiwedd yr Eisteddfod, gyda Catrin Evans yn arwain a Delyth Griffiths ac Ann Jones yn cyfeilio.
Fe enillwyd cwpan Dyffryn Tywi - y tro cynta' i'r cwpan ddod n么l i Geredigion ers 1988. Ceredigion hefyd a enillodd y darian am y mwyaf o farciau yn yr Eisteddfod a mawr fu'r dathlu yn y gwesty hyd oriau m芒n y bore! Edrychwn ymlaen yn awr at weld yr uchafbwyntiau ar y teledu ar y 9fed o Ragfyr.
I'r rhai nad oedd wedi blino yn ormodol, cafwyd noson o `Generation Game' ar y nos Lun wedyn yng ngofal Nia Jones a Dai Morgan a chafwyd noson dda iawn.
Cynhaliwyd Cymanfa'r Frenhines a Ffarmwr Ifanc yng Nghapel Brynrhiwgaled ar nos Sul, Tachwedd 27ain. Bu'r Frenhines, Meryl Owens, a'r Ffarmwr Ifanc, Rhydian Rees, yn trefnu'r digwyddiad sirol yma ar y cyd gan fod y ddau yn aelodau o Gapel Brynrhwgaled a chafwyd noson wych.
Roedd y capel yn orlawn, gyda Catrin yn cael hwyl wrth arwain a'r band yn gyfeiliant bendigedig. Braf oedd gwrando ar y Frenhines, y Ffarmwr Ifanc a'r 4 morwyn yn perfformio gyda'i gilydd ynghyd 芒'r ensemble o glwb Caerwedros. Llywydd y noson oedd Gareth Evans a chafwyd araith hwyliog ganddo, yn 么l ei arfer. Roedd hi'n noson ffantastig! Diolch i aelodau'r `Ffordd Ymlaen' am baratoi'r capel a'r festri ar gyfer y digwyddiad.
Cofiwch edrych allan amdanom pan fyddwn yn mynd o amgylch yr ardal yn canu carolau ar nos Lun, I9eg o Ragfyr, gan ddechrau o'r neuadd am 6.30. Mi fyddwn yn codi arian i'r Uned Gancr i bobl yn eu harddegau yn Ysbyty Arch Noa. Mi fyddwn hefyd yn cynnal dawns gyda'r gr诺p Coda yn Llanina ar Ionawr I3eg, gyda'r elw yn mynd at yr un achos.