Ymgasglodd criw niferus a llawen o gyn-aelodau Aelwyd yr Urdd, Aber卢porth, ynghyd yng Ngwesty Penrallt ar nos Sadwrn, 13 Mawrth.
Trefnwyd y noson gan Bwyllgor Apel Eisteddfod yr Urdd, Cymuned Aber-porth, a'r achlysur hwn oedd penllanw ymgyrch y pwyllgor i godi 拢10,000 ar gyfer yr Eisteddfod a gynhelir eleni ar diroedd Llannerchaeron ger Aberaeron.
Yr oedd hi'n noson hwyliog a phawb wrth eu boddau yn son am yr hwyl a gawsant gynt pan oeddent yn aelodau o G么r yr Aelwyd, rhwng y 1940au i ganol y 1960au, yn paratoi ar gyfer cystadlu yn eisteddfodau'r Urdd a chynnal cyngherddau lu.
Trefnwyd yn ogystal arddangosfa luniau ar gyfer yr adunwyr, a bu gweld y ffotograffau hynny yn fodd i ddwyn i'r cof atgofion melys y gorffennol.
Y Parchedig a Mrs T. Tegryn Davies sefydlodd Aelwyd Aberporth yn y 1940au ac o dan eu harweiniad a'u gofal hwy bu'r Aelwyd yn hynod lwyddiannus.
Er enghraifft, yng Nglynebwy yn 1958 enillodd y C么r Merched yn y gystadleuaeth Cerdd Dant. Bu卢 G. Wyn James (Wyn Beulah), awdur `Fe a Hi 'Ma', cofiant y Parchedig a Mrs T. Tegryn Davies, dan hyfforddiant Mr Davies, yn adroddwr llwyddiannus ac enillodd Wobr Llwyd o'r Bryn yn Eisteddfod Rhydaman yn 1970.
Yna bu Buddug Stephens (Buddug Ty Mawr) yn enillydd cyson aryr Unawd Telyn drwy'r cyfnod, a chyflawnodd Dic Jones (Dic Tanyreglwys y pryd hwnnw) y gamp anhygoel o ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith.
Heb hyfforddiant a dylanwad a chyfeillgarwch Mr a Mrs Tegryn Davies ni fyddai aelodau Aelwyd Aber-porth wedi llwyddo fel y gwnaethant.
Y mae pawb a fu'n aelodau o'r Adran neu'r Aelwyd yn sicr yn gwerthfawrogi'r fraint a gawsant o fyw yn yr ardal pan oedd y ddau yn gwasanaethu yn ein plith.
Ar noson yr Aduniad lansiwyd llyfryn yn cynnwys casgliad o ffotograffau o weithgareddau'r Aelwyd. Paratowyd y llyfryn Aelwyd Aber-porth drwy lygad y camera, gan Mary Jones a Mairwen Gwilliam.
|