|
Fel rhan o'u cynllun gwaith ar ddiwedd ail flwyddyn eu hastudiaethau, mae'r ddwy fyfyrwraig yn gwneud ffilm (sain a cherddoriaeth a sgript) ar chwedl Si么n Cwilt.
Si么n, wrth gwrs, oedd y r么g a'r smyglwr enwog a fu'n gyswllt rhwng y llongau a Roscoff, a Herbert Lloyd - sgweier Ffynnon Bedr a phobl amheus eraill. Bu'r criw yn ffilmio ym Mhenbryn, eglwys Llannarth, Llannerch Aeron, Llangrannog, Cwmtudu, a Cheinewydd.
Cecil Jones, fu'n chwarae rhan Si么n Cwilt, ac Emyr a Gethin Brown, ac Aled a Rhys Davies fu'n chwarae ei ddihirod.
Ffilm ddogfen i blant fydd y pecyn terfynol. Mae'r ddwy gynhyrchydd wedi paratoi yn ddyfal ac wedi gweithio yn ymroddgar. Gobeithio cawn weld y 'premiere' cyn bo hir.
Dymuniadau da i Caryl a Theleri.
|
|