Maen-y-groes, man y grasau - hygar dwyn Cysegr Duw a'i seintiau Ar 么l oes hir o les谩u Noswyliant ger ei seiliau. J. Lloyd Jones Dechreuwyd y dathlu trwy gynnal Gymanfa Draddodiadol a Modern. Breian Jones oedd wrth yr organ a Delyth Wyn Jones yn arwain. Gwnaeth y ddau eu gwaith yn egniol dros ben ac o ganlyniad cafwyd cymanfa i'w chofio. Cafwyd eitem gan blant yr Ysgol Sul gyda Carys Williams yn cyfeilio. Hefyd eitem gan barti deulais y bobl ifanc gyda Gillian Hearn yn cyfeilio. Lea Owen Jones oedd yn croesawu. Derbyniwyd llythyr oddi wrth Miss Anwen Lloyd, llywydd y noson, yn ymddiheuro am ei habsenoldeb. Brynhawn Mercher croesawodd Mrs Kathryn Thomas, llywydd y Chwiorydd, Mr Lyndon Lloyd i'r festri i s么n am Annibynwyr Sir Aberteifi. Daeth cynulleidfa dda i wrando arno. Mrs Gwenlyn Jones ac Esta Davies oedd yng ngofal y te. Nos Iau daeth Mrs Nan Lewis, Peniel i'r Gymdeithas Ddiwylliadol. Roedd y cyfarfod arbennig yma yn rhan o ddathliadau 175 o flynyddoedd er sefydlu'r achos ym Maenygroes. Roedd y festri yn llawn a phawb wedi mwynhau wrth i Mrs Lewis s么n mewn manylder yn ei ffordd ddihafal arferol am ddigwyddiadau'r Diwygiad 1904. Ar ddiwedd y noson diolchwyd i Mrs Lewis gan y Parch. Nennog Thomas ac yna cafwyd lluniaeth ysgafn cyn i bawb ymadael. Nos Wener oedd noson yr helfa drysor a drefnwyd gan Gareth Jones, Mumur y Coed. Aeth 14 o geir ar yr helfa. Bu yna gystadlu brwd cyn dod yn 么l i Dafarn Penrhiwgaled i gael gwybod pwy oedd wedi casglu mwyaf o drysorau a chael pryd blasus o fwyd. Yr enillwyr oedd Ian a Gwendoline, Tir Gwyn. Diolch i Gareth a'r teulu am y paratoi trwyadl a roddodd fwynhad i bawb a gymerodd ran. Dydd Sul, a dyma gyrraedd y pinacl gyda pherfformiad y pasiant.
|