Roedd y syniad o wneud Naid Parasiwt Tandem wedi apelio i mi ers amser mawr a phenderfynais y llynedd mai dyna oedd yr amser iawn i wireddu fy mreuddwyd - cyn fy mod yn rhy hen i'w wneud heb gael prawf meddygol! Y cam nesaf oedd perswadio rhywun digon mentrus, neu ddwl, i ymuno gyda mi i gwblhau'r antur. Cefais sawl un yn ateb 'NA!' Ond, ar 么l trafod brwd (a pheth bygythiadau corfforol!) penderfynwyd mai fi, Carol Thomas-Harries, a Ffion Jones, yn cynrychioli D. D. Thomas, Aelwyd Garage, Blaenannerch, ynghyd 芒 John Dalton, o Daltons ATV's, Talsarn, fyddai'r tri gwallgof i fentro ein bywydau i'r wybren fry uwchben. Y cam nesaf oedd dewis elusen a fyddai'n medru elwa o'r nawdd a fyddwn yn ei gasglu. Penderfynwyd ar Ymchwil Cancr Cymru, sydd wedi ei leoli yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd. Mae'r mudiad yma yn ariannu'r ymchwil i driniaethau a meddyginiaethau effeithiol ar gyfer dioddefwyr cancr yng Nghymru. Roedd yn bwysig i'r tri ohonom y byddai'r arian yn gwneud gwahaniaeth yn ein gwlad fach ni, ac nid ymhellach dros glawdd Offa. Mae'n anodd credu - ond mae'n ffaith - bod cancr bellach yn effeithio ar un o bob tri pherson. Trefnwyd y naid parasiwt drwy gwmni Skyline' n么l ym mis Mehefin. Wedi bwcio roedd y freuddwyd yn dechrau teimlo'n fwy real, ac roedd yn rhaid dechrau casglu nawdd o ddifri. Nid oedd neb yn saff rhag ein ffurflenni nawdd! Byddai'r ffurflenni yn mynd o amgylch ar bob achlysur posib, a chwarae teg, roedd pawb yn gefnogol iawn, boed yn unigolion, yn fusnesau, neu'n fudiadau. Darllenwch mwy yn amserlen y naid...
|