Yn fore o hyd y mae'r fro - yn annog
Ac yn enw'r Gambo
Daw yr heidiau i rodio
A daw'r iaith hefyd am dro.
Tudur Dylan
Y Teithiau Nesaf
Dydd Sadwrn, Ebrill 14, am 10.30 a.m.
Taith gylch hawdd ar y gwastad o Aberteifi i Gilgerran drwy Warchodfa Natur Corsydd Teifi. Cwrdd ger yr hen orsaf yn Aberteifi (dilyn arwydd Marchnad Anifeiliaid). Cofiwch ddod 芒 phryd canol dydd ac esgidiau addas. Bydd cyfle i ymweld 芒 Chanolfan yr Ymwelwyr. Arweinydd: Gwyneth Mai.
Dydd Sadwrn, Mai 12, am 10.30 a.m.
Taith n么l-a-'mlan o Glwb Golff Aberteifi yn Gwbert. Taith fer, hawdd. Gellir prynu brechdanau yn y Clwb, neu ddod 芒 rhai eich hun fel arfer. Arweinydd: Gerwyn Morgan (Beulah) Ff么n (01239) 810752. Dewch yn haid i gefnogi arweinydd newydd!
Diolch yn fawr i Helen a Digby Bevan am arwain taith hyfryd yn ardal Bwlchygroes/ Maesllyn ar Sadwrn braf ar Fawrth 10, ac am ysgrifennu'r adroddiad diddorol canlynol.
Taith Gerdded 10 Mawrth
Daeth 13 o gerddwyr ynghyd ar fore braf o Fawrth ar gyfer taith yn ardal Bwlchygroes a Maesllyn ger Llandysul. Hyfryd o beth oedd cwrdd eto ag un a arferai gerdded droeon gyda Cherddwyr y Gambo, sef John Jones, neu Johnny Bachyrhew, a ddaeth i ffarwelio 芒 ni ar y daith.
Ar 么l gadael maes parcio Capel Bwlchygroes, cymerwyd yr heol i lawr i fferm gaws Glynhynod lle y gellid clywed s诺n afon Chwerchyr yn y cwm islaw. Ymlaen wedyn heibio i fferm Wernddu a rhyfeddu ar ei lleoliad heddychlon ac anghysbell. Er mai dechrau mis Mawrth oedd hi, roedd yn syndod gweld bod eirin yn dal i fod ar goed celyn a bod blodau'r gwanwyn i'w gweld ymhobman.
Ymlaen 芒 ni, heibio i Frynteg, a dod allan ym Maesllyn lle roedd nifer o'r cerddwyr yn hel atgofion am ymweld 芒'r felin ar adegau gwahanol. Soniwyd hefyd am y llwybrau bychain yn yr ardal a ddefnyddid gan weithwyr y melinau i gyrraedd eu gwaith ac un arbennig am un dyn anffodus oedd yn gorfod eu teithio o Benrhiwllan i felin yn Llangrannog ac yn 么l a hynny'n ddyddiol. Nodwyd i'r bont dros y Chwerchyr gael ei chodi ym 1824 ond doedd dim un o'r cerddwyr yn cofio'r digwyddiad yn glir!
Gan mai un sedd yn unig sydd yng ngardd Mileniwm Maesllyn, penderfynwyd parhau i fyny'r rhiw serth tuag at fferm y Gernos i ddod o hyd i le addas i gael cinio. Aethom heibio i hen erddi'r stad, sydd bellach yn rhan o Gerllyn, a chanmol eu cyflwr graenus. Cafwyd seibiant yng nghysgod adfeilion Plas y Gernos a chlywed hanesion difyr am un o'r cyn-berchnogion oedd yn cadw moch yn y plas er mwyn eu tewhau.
Ymlaen wedyn ar y llwybr hyd at adfail bwthyn pert y cyfeirir ato ar y map fel `New House'. Yn y caeau cyfagos cedwir cannoedd o ddefaid dof fferm Blaenwaun. Defnyddir gwaed y defaid hyn i greu gwrthwenwynau sy'n cael eu hallforio ledled y byd i drin pob math o afiechydon difrifol. Yn 么l ar yr heol eto i Fwlchygroes lle gwelodd Digby a Clem farcud coch yn ymosod yn aflwyddiannus ar i芒r.
Roedd y tywydd yn braf drwy gydol y daith a chyrhaeddodd pawb adre mewn da bryd i weld g锚m siomedig Cymru'n erbyn yr Eidal.
Mwy o deithiau cerdded yn yr ardal