Ar strydoedd Aberteifi yn y Sadwrn Barlys eleni gwelwyd hen hers geffyl Glynarthen.
Mae'r hers wedi bod ym meddiant Mr Hugh Jones, o Lanwrin, ger Machynlleth, ers blynyddoedd. Mae gan Mr Jones ddiddordeb mawr mewn hen beiriannau fferm a.y.b. a chanddo gasgliad enfawr.
Fe werthwyd yr hers, yn wreiddiol, gan y Capel i Mr John Parry, yn 1967, gan nad oedd defnydd iddi bellach, ac angen ei lle.
Fe'i hadnewyddwyd yn ddiweddar ac mae'r Dr Glyn Jones, Aberystwyth, wedi cymeryd cryn ddiddordeb yn yr hers a chaiff ei harddangos mewn gwahanol sioeau ar hyd a lled y wlad. Dywedir ei bod yn werth tua pum mil o bunnoedd erbyn hyn ond nid yw'n ddymuniad gan ei pherchennog ei gwerthu.
Bu tipyn o holi ynghylch hanes yr hers. Y mae trigolion hynaf yr ardal yn ei chofio'n cael ei defnyddio. Ymhlith y rhain mae Mr Dai Powell, Bryndulais, welwyd ar raglen ar y teledu yn s么n amdani.
Methwyd, hyd yma, a darganfod pryd yn union y daeth i'r Glyn, ond mae'n debyg ei bod yma ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Credir ei bod wedi ei gwneud yn Aberteifi, o bosib, gan William George, Castle Street neu David James, Bathouse.
Gwelwyd cofnodion cwrdd eglwys y capel am 1911, lle bu trafod yngl欧n 芒'r angen i adnewyddu a phaentio'r hers. Gofynnwyd i Noah Edwards, Ardwyn i wneud y gwaith.
Yn Rhagfyr 1913 galwodd Ben Davies (y crydd) sylw at ddrws t欧 yr elor-gerbyd. Roedd eisiau ei atgyweirio. Pasiwyd fod David Morris, Deiniol i ofalu fod y gwaith yn cael ei wneud. Dywedodd Ben Davies, hefyd, fod y t欧 yn llaith, ac y dylid cael gwell lle i'w chadw. O dan yr Hen Festri y cedwid yr hers, lle hefyd, yr oedd stabl i'r ceffylau.
Ben Davies oedd a gofal yr hers yr amser yma. Roedd yn byw ddau d欧 i lawr o'r Festri.
Yng nghyfarfod 1920 o'r cwrdd eglwys penderfynwyd fod Ben Davies i gael swllt, o gyllid yr eglwys, yn ychwanegol at y swllt delid gan aelodau'r capel am ei benthyg. Penderfynwyd, hefyd, fod unrhyw un o'r tu allan i dalu triswllt yn y dyfodol gan fod popeth wedi codi yn ei bris.
Gobeithio y daw rhagor o wybodaeth i law yngl欧n 芒 dyddiau cynnar yr hers.
Mae hiraeth am y meirwon - o'i gweled
Ar gael yma'r awrhon.
A pharch sawl arch gludodd hon
O degwch Ceredigion.
Emyr Oernant