Gwnaeth y clwb gystadlu yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus y Sir yn Felinfach yn ystod mis Ionawr. Cafwyd tim yn adran dan 16 a dan 21 oed. Daeth Anne Williams, un o aelodau'r clwb adre o Goleg Caerdydd am benwythnos i fynychu a dweud gair yng nghinio blynyddol Sioe Aberteifi. Roedd Anne yn frenhines y sioe y llynedd a mwynhaodd y cinio yn Nhrewern. Cafodd trip o'r sir ei drefnu i g锚m rygbi LIanelli yn erbyn Caerdydd ym Mharc y Strade ar ddechrau mis Chwefror a mwynhawyd y g锚m yn fawr gyda Llanelli yn ennill. Mae'r clwb wedi bod yn brysur yn ystod yr wythnosau diwethaf yn paratoi ac yn ymarfer ar gyfer cystadleuaeth adloniant y Sir, sef y pantomeim. Buom yn ffodus i gael Mrs Owenna Davies o Ffostrasol i ysgrifennu'r sgript a'i gynhyrchu. Mrs Wendy Organ oedd yn gyfrifol am y gerddoriaeth. Buodd arweinyddion y clwb yn rhoi help llaw a mawr yw ein diolch i bawb am eu gwaith. Cafwyd llwyddiant wrth gael ein dyfarnu yn y drydedd safle ar y nos Wener. Roedd hyn yn dipyn o gamp i ni gan nad oeddwn wedi cystadlu yn y gystadleuaeth ers rhyw ddeg mlynedd. Cafodd y clwb wahoddiad i ymuno 芒 chlwb Penparc yn Theatr Mwldan i berfformio'r pantomeim o flaen cynulleidfa niferus. Trefnodd y clwb noson i berfformio'r pantomeim yn neuadd Ysgol Dyffryn Teifi a gwahoddwyd clwb Brynherbert i ymuno 芒 ni. Roedd y neuadd yn llawn a braf oedd gweld cymaint o bobl yno yn gyn-aelodau a ffrindiau. Mrs Lenora Davies oedd llywydd y noson a chafwyd araith pwrpasol ganddi am ei hamser fel aelod o glwb Troedyraur. Aeth ymlaen i gynrychioli'r clwb yn forwyn, brenhines a chadeiryddes y Sir. Mwynhawyd noson o sgio yn Llangrannog ar ddechrau mis Mawrth gyda rhai yn mentro i dop y llethr sgio. Cafwyd cawl a thwmpath i ddathlu Gwyl Ddewi yng Nghaffi Tan-y-groes ar Fawrth l0fed a gwahoddwyd clwb Bryngwyn atom. Mwynhawyd cawl blasus ac wedyn ymunodd pawb i ddawnsio twmpath yng ngofal Mansel, arweinydd y clwb. Trefnwyd bws rhwng clybiau Penparc, Llandygwydd, Bryngwyn a Throedyraur i Westy'r Marine yn Aberystwyth i ddawns dewis swyddogion. Mwynhaodd pawb, a braf oedd gweld cymaint yno. Llongyfarchiadau i'r swyddogion newydd.
|