Llwyfanwyd opera newydd sbon o waith un o gymeriadau Aberporth, Dai Gorwel, yn Theatr Mwldan yn ystod mis Tachwedd - 'Don't Cut the Weaselwort.' Dai fu'n gyfrifol am y stori a'r geiriau a chyfansoddwyd y gerddoriaeth wreiddiol yn bennaf gan John Turner. Roedd y theatr dan ei sang am ddwy noson a'r gynulleidfa wrth eu bodd yn gwylio pobl leol, actorion a chantorion o'r ardal hon, yn perfformio.
Stori gyfoes oedd hi: datblygwyr yn ceisio dwyn rhagor o dir cefn gwlad er mwyn adeiladu archfarchnad arall. Er bod y datblygwyr yn llwyddo i gael gafael ar y tir yn gyfnewid am feic modur Harley Davidson, mae'r tylwyth teg sy'n byw yno yn achub y dydd, gyda chymorth dau hipi.
Oherwydd bod planhigyn prin, sef y 'weaselwort' yn tyfu ar y darn o dir, mae nhw'n llwyddo i atal cynllun y datblygwyr- gyda help Duw ei hun. Roedd y dychan yn ddeifiol wrth i'r cynghorwyr llwgr ddawnsio i ofynion y datblygwyr a'r geiriau'n cyfuno a cherddoriaeth fywiog i wneud noson gofiadwy iawn.
Llongyfarchiadau i'r unawdwyr i gyd, y corws o dylwyth teg bochgoch, y band, Dai, John a phawb a fu ynghlwm 芒'r opera. Gobeithio y bydd cyfle i weld 'Don't cut the Weaselwort' eto.
|