"Wrth i ni longyfarch a chydlawenhau 芒 T. Llew ar gyrraedd ei ddeg a phedwar ugain mae'n beryg i ni ollwng dros gof fod ganddo linynnau eraill i'w fwa heblaw llenydda a barddoni.
Gwyddom wrth gwrs ei fod yn
gampwr o chwaraewr gwyddbwyll - chwaraewr ac athro di-ail yn 么l y rhai a ddylai wybod. Digon bach o barch a g芒i'r dalent honno gan Alun Cilie, fodd bynnag. Pan ddigwyddai Llew fod yn absennol o'r R诺m Bach a rhywrai'n holi ble'r oedd, "Pwff,"
fyddai ymateb Alun, "Ma ryw whare draffts arno nawr to!" Ond efe fu'n bennaf gyfrifol am sefydlu Cyngres Wyddbwyll Cymru. Hyd hynny, dod o dan adain Prydain a wn芒i'n chwaraewyr ni i gyd.
Bu'n goediwr yn ei ddyddiau cynnar, ac mae saga cwympo'r dderwen gau yn un na chafodd pawb y fraint o'i chlywed, serch mai `rhwbeth at faint cropyn eithin gweddol' oedd barn Y Cilie am y pren anferth ' hwnnw.
Pan anfonwyd ef i'r Aifft adeg y rhyfel fe'i cadwyd yno gryn dipyn yn hwy na rhai o'r lleill - roedd ei feistri yn bobol criced, a'r t卯m ar y pryd yn brin o droellwr llaw chwith. Pethau rhyfedd yw blaenoriaethau ynt锚.
Bydd rhai ohonom hefyd yn cofio sefydlu Cymdeithas Ceredigion. Llew oedd prif symbylydd y fendith honno. Ef hefyd oedd un o'r mwyaf blaenllaw wrth sefydlu Cymdeithas Barddas adeg Steddfod Aberteifi. Ac ni bu llais tebyg i'r eiddo ef o Men meicroffon erioed, na di-roi-ifewnrwydd hafal iddo mewn ymryson. Nid oedd ildio i fod, nes i Feuryn roi'r marc - ac nid bob amser wedi hynny, chwaith!
Ond nid yw Llew yn gerddor. Mae'n gas ganddo ganu. Pan ddeuai Frank, tafarnwr y Pentre ar y pryd, i mewn i'r R诺m Bach i gyhoeddi stop tap (ac yntau'i hun fynychaf 'yn
ysbryd y darn' erbyn hynny) byddai'n dechrau arni mewn llais rywle rhwng Charlotte Church ar ddiwrnod gwael a Jimmy Durante ar ddiwrnod gweddol. `Y sgwarnog fach ar ben y rhos' fyddai'r repertwar bob tro, ond ymhell cyn i honno ddechrau pori byddai Llew allan drwy'r drws ac am adref. Nid bod llawer o le i'w feio, o ran hynny.
Ond un noson gwnaeth safiad ar egwyddor. Doedd dim o'r fath beth a 'noise pollution' yn y geiriadur ar y pryd. Ond ym marn Llew roedd eisoes yn ffaith. Daethai criw o athrawon i lawr i ymlacio o Wersyll yr Urdd yng Nghefncwrt ar ddiwedd wythnos digon trafferthus, si诺r o fod. Ac i lawr i'r R诺m Bach heb wahoddiad, os clywsoch chi rioed shwd beth! Yn waeth na hynny, dyma'i harweinydd (sydd erbyn heddiw yn ffigwr amlwg ar y cyfryngau) yn eu cymell i ganu. A hynny, cofiwch chi, ar ganol trafodaethau llenyddol o'r pwys mwyaf Hawyr bach, ar gymaint a wyddai ef gallai tynged y Gadair y flwyddyn wedyn, heb son am y goron a'r fedal a'r englyn, ac efallai'r Daniel Owen hefyd, fod yn dibynnu ar y llys hwnnw!
Roedden nhw eisoes wedi BingBong-Beian (yn ddigon aflafar mae'n rhaid cyfaddef) ddwywaith neu dair, a rhyw hanner y ffordd i Frest Pen Coed pan gododd Llew ar ei draed a golwg fel Ofnadwy Nos arno. A dyma roi gwybod 'u seis iddyn nhw. Erbyn iddo orffen roedd yr arweinydd druan, er glewed oedd mae'n si诺r, yn ein hatgoffa am 'Wil went to his boots' a'r R诺m Bach gennym i ni'n hunain eto.
Dro arall, a hithau'n ganol haf a'r lle yn orlawn (onid锚 ni buasai Beryl erioed wedi caniatau'r fath beth) daethai gr诺p o ddieithriaid i mewn ac eistedd o gwmpas y lle t芒n a'u cefnau tuag atom ni yn ein cornel arferol wrth
y palis. Roeddwn fel petawn yn lledadnabod un ohonynt - rhyw fath o Gymro gallwn feddwl, ond ni fu dim cyfathrach rhyngom ar wah芒n i ryw nod fach o gydnabyddiaeth. Serch hynny, daethai'n amlwg, wrth yr ambell banner cewc a dowlai dros ei ysgwydd tuag atom, a'r sisial rhyngddynt, mai ni oedd eu testun trafod.
Ymadawsant ymhen tipyn, a sylwodd rhywun ar becyn sigarets Players wedi'i adael ar y silff ben tan a chodi i'w estyn i Llew (roedd yn smociwr yr adeg honno). Gwaetha'r modd yr oedd yn wag, ond roedd yn amlwg mai'r pecyn hwn fu'r moddion cyfathrebu dirgel rhwng y dieithriaid, achos ar ei gefn roedd y geiriau hyn, "In the corner T. Llew Jones - I think. At the end some bard or other - others I don't know". A dyna'n rhoi ni i gyd yn ein lle!"
Erthygl gan Dic Jones
Cliciwch yma i ddarllen cyfarchion pen-blwydd i T. Llew Jones ac i weld lluniau o'r dathlu. Gallwch chi gyfrannu i'r sgwrs am ei lyfrau yma hefyd.