Yn y llyfr mae llofnod holl aelodau'r eglwys ym 1947. Dymuniad aelod o'i deulu, sef Mr Dan Davies, oedd bod y llyfr yn cael ei gadw yn ddiogel yn y capel a'i werthfawrogi. Daeth y Parchedig T. J. Davies, Gwaelod y Garth gynt a'r llyfr yn 么l ar ran Mr Dan Davies. Derbyniwyd rhoddion gan unigolion eraill, sef Miss Dilwen Roes a'i theulu, sef y copi gwreiddiol o lun pensil o'r capel a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Gadeiriol Bryngwenith ym 1952 gan Mr John (Jack) Roes, Blaenwinllan; a derbyniwyd rhodd gan y Dr Roy a Mrs Petra Davies, sef copi wedi ei fframio o anerchiad i gyflwyno'r Dr Dan Davies i eglwysi Hawen a Bryngwenith yn nechrau'r ganrif ddiwethaf. Cyflwynwyd rhoddion i'r aelodau sydd yn cyflawni gwaith canmoladwy dros yr eglwys ers blynyddoedd lawer. Cyflwynodd y gweinidog, y Parchedig Carys Ann lungopi o lun o'r capel a geiriau pwrpasol a pherthnasol yn y ffr芒m gan Mr Jon Meirion Jones. Yn dilyn y cyfarfod derbyniwyd croeso mawr yn y festri gan wragedd caredig Bryngwenith.
|